Seminar (Caerdydd) ar ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru

Mae gwahoddiad yn cael ei ddanfon heddiw i fynychu ein seminar brynhawn rhad ac am ddim ar 19fed o Hydref, sy’n trafod ein darganfyddiadau ymchwil newydd ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol defnyddwyr yng Nghymru. Hwn yw’r diweddaraf o seminarau Beaufort sydd wedi ei arwain gan ymchwil gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar dueddiadau allweddol agweddau defnyddwyr yng Nghymru.

Mae data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd nodedig mewn defnydd o gyfryngau cymdeithasol dros y flwyddyn diwethaf ar draws y DU. Yn 2011, am y tro cyntaf erioed, mae dros hanner o oedolion wedi bod ar wefan cyfrwng cymdeithasol, gan ddangos pwysigrwydd rhwydweithio cymdeithasol ym mywyd oedolion Prydeinwyr.

Felly beth yw’r sefyllfa yng Nghymru? Gan ddefnyddio data perchnogol wedi ei gasglu drwy arolwg Omnibws Cymru Beaufort gyda sampl gynrychioladol o oedolion yng Nghymru, a’r ychwanegiad o dechnegau ansoddol sydd wedi ei cynllunio i ddeall yn well gymhelliant defnyddwyr, byddwn yn ateb cwestiynau megis:

  • pwy sy’n defnyddio gwefannau rhwydweithio yng Nghymru?
  • pam ydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol mwy a mwy?
  • pa rôl sydd gan rhwydweithio cymdeithasol ym mywyd pobl?
  • pwy yw’r defnyddwyr mwyaf rheolaidd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru?
  • sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol?
  • sut mae Cymru’n wahanol i weddill y DU?

mwy o fanylion / archebu dy le
http://www.beaufortresearch.co.uk/index.php/site/news/social_media_use_in_wales_seminar_launched/

1 sylw

  1. Diolch am bostio’r ddolen. Swnio’n wych. Sdim llawer o ystadegau yn ôl iaith. Dyw Ofcom ddim yn cyhoeddi breakdown o’u ffigyrau adroddiadau marchnad yn ol iaith, er aparyntli eu bod yn eu casglu, sydd yn biti mawr.

Mae'r sylwadau wedi cau.