Beth yw pwynt gwneud y Pethau Bychain, os oes neb yn darllen?

Dyma fy ymateb i gofnod blog gan Ifan Morgan Jones – “Faint sy’n darllen?” – sy’n cwestiynu gwerth cael nifer fawr o gyfraniadau bychain ar y we, os oes bron neb yn eu darllen.

Dwi wedi cau sylwadau yma, er mwyn i chi fynd a rhoi unrhyw sylwadau ar flog Ifan. Diolch.

Petai David R Edwards wedi meddwl am gynulleidfa yn yr wythdegau, fyddai ganddon ni’r gwaith oedd ganddo yn y 90au?

Petai pob rhaglen S4C yn cael ei barnu ar gynulleidfa fyddai hynny’n golygu bod dim pwynt cynhyrchu rhaglenni?

Un peth am y ‘gynulleidfa’ we os alli di alw fo’n hynny hyd yn oed, ydi ei fod ddim yn dilyn pethau yn ddyddiol yn aml iawn ac yn dibynnu ar ddolenni gan bobol (ar Twitter neu Facebook gan amlaf) neu sefydliadau (Golwg360 neu BBC Cymru gan amlaf) i dynnu traffig drwodd i ddarnau unigol o gynnwys. Dydi o ddim yn ddibynnol ar amser (gall cofnod blog fod yn boblogaidd dros amser byr neu amser llawer hirach).

O mhrofiad i o flogio, mae gen ti gynulleidfa gyson gymharol fach (ac mae’r gymharol yn bwysig), sydd yn driw, ac yn werth sgwennu ar eu cyfer. Os ti’n hapus yn blogio i 20 yna mae hynny’n gret. Mae llawer iawn o fanzines yn gweithredu fel’na. Mae unrhyw sin DIY yn gweithredu fel’na. Mi gei ambell i gofnod sydd rywsut yn cyrraedd tu hwnt i hyn ac yn rhoi spike mawr yn y traffig yna sefydlogi nol eto i’r un lefel, ac mae hyn yn gret, ond fel yn y cigfyd, dim ond rhai o’r llawer fydd yn cyrraedd cynulleidfa fawr.

Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn destun siom, jest fel’na ma’r we yn gweithio. Mae Twitter wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dynnu traffig drwodd i wefannau eraill. Dydi rhan fwyaf o flogiau Cymraeg ddim yn gwthio eu cynnwys drwodd i Twitter, lle mae pobol yn gallu lledu gair am gofnod yn hawdd.

Os ti isio ffigyrau yna dyma rai fideobobdydd.com am Awst:

Ymwelwyr Unigol Absoliwt = 643
Ymwelwyr Unigol = 1,175
Ymweliadau Tudalen = 2,264
Cyfartaledd amser a dreulir ar y wefan = 2 funud 17 eiliad
Cyfartaledd tudalennau a ddarllennir = 1.93

A bod yn onest, dwi’n fwy na hapus os mae na 643 o unigolion wedi ymweld a gwefan gwbl annibynnol, di-hysbyseb, di-farchnata (ish), a di-arian.

Meddyliwch beth allai pobol wneud gyda chyllideb?

A does neb yn ‘cyhoeddi ffigyrau’ am fod dim llawer o neb efo iot o ddiddordeb! Os mae blog yn cynhyrchu un darn da o gynnwys y mis. Mae hynny’n lwyddiant. Mae’n gwneud cystal a llawer i bapur bro neu raglen radio gymunedol fyswn i’n tybio.

Efallai bod beth mae Catrin Beard yn dweud yn wir, fod na dipyn o bethau diflas ar-lein, ond mae nhw’n siwr o fod yn ddiddorol i rywun! Pam bod popeth yn gorfod bod yn ddiddorol i un person penodol? Mae’r we yn ddi-ddiwedd, does na ddim prinder lle na column inches, felly mae lle i gael blog crochet lluniau o superheroes y 50au yn Gymraeg os oes na un person yn darllen ac yn gwerthfawrogi hynny.

Mae pobol dal i feddwl yn y ffordd, bod rhaid i bethau weithio fel print, fel teledu, fel radio – lle mae lle yn brin ac felly rhaid dewis a dethol beth fydd yn mynd arnynt. Ar y we, mae na infinte self space, felly does dim ots os oes blog sydd â dim ond deg darllennydd dyddiol (ac mae dyddiol yn misnomer hefyd – sawl ymwelydd i gofnod fasa’n fesur gwell – neu faint o amser mae nhw’n treulio ar y wefan).

Mae blogiau hefyd yn lif o gynnwys yn hytrach nac yn erthgyl fisol, lle mae rhywun yn hogi fo i fod yn berffaith. Publish or be damned ydi’r ethos, ac os oes rhywbeth yn taro deuddeg bob yn hyn a hyn yna gret.

Mae yna’r broblem o critical mass ar gyfer sylwadau ar flogiau Cymraeg, ond mae hynny’n rhywbeth arall yn llwyr.

Dwi’n credu dy fod yn gwbl anghywir o ddweud bod darllen rhywbeth Cymraeg ar-lein yn fwy adeiladol na chreu rhwybeth newydd. Pam ar wyneb y ddaear bod y ddau yn mutually exclusive i ddechrau, a sut mae bod yn passive mewn byd lle mae cyfranogiaeth yn ein amgylchynu yn rhoi’r Gymraeg ar y droed flaen wn i ddim. Rhaid i ni gymryd rhan ym mhob agwedd o ddiwylliant digidol os da ni am gadw unrhyw berthnasedd yn y degawdau nesaf.

Os mae digon o flogiau, a rhaid cofio taw nid dim ond blogiau yw’r we o bell, bell ffordd, yna mae pethau mwy poblogaidd yn bownd o godi ohonyn nhw.