Wedi methu Hacio’r Iaith? 14 peth gwahanol o’r digwyddiad yn 2014

Dyma rhai o’r pethau a ddigwyddodd ar ddydd Sadwrn yn Hacio’r Iaith 2014. Does dim rhifau achos does dim trefn penodol. Ffrwti Ffrwti ydy gwasanaeth newydd sy’n casglu trydariadau Cymraeg mewn un lle ac yn cynnig rhestr o bynciau sy’n trendio (ie, mae rhestr trendio yn Gymraeg yn ôl!). Dw i’n hoff iawn o’r Ffrwtibot… Parhau i ddarllen Wedi methu Hacio’r Iaith? 14 peth gwahanol o’r digwyddiad yn 2014

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

Microsoft Kodu yn Gymraeg: creu, chwarae a rhannu gemau ar Xbox360/Windows

Cymro sy’n gweithio i Microsoft ydy Stuart Ball. Mae fe wedi postio cofnod ar flog Microsoft i athrawon i ddatgan bod Kodu bellach ar gael yn Gymraeg mewn cydweithrediad a chyfieithwyr ifanc yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. O’n i ddim yn gwybod beth yw Kodu a dweud y gwir. Mae hi’n iaith cyfrifiadurol a phlatfform… Parhau i ddarllen Microsoft Kodu yn Gymraeg: creu, chwarae a rhannu gemau ar Xbox360/Windows

Ogwen360: prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen

Siôn Richards, myfyriwr doethuriaeth Prifysgol Aberystwyth mewn cyd-weithrediad â Golwg360, sy’n trafod prosiect sy’n ran o’i ymchwil i newyddion lleol iawn trwy gyfrwng y Gymraeg. […] Ddydd Gwener diwethaf bu i mi lansio prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen. Bwriad y prosiect yw darganfod strwythurau ar gyfer cynhyrchu cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth… Parhau i ddarllen Ogwen360: prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post

Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

Ma hwn yn ddiddorol iawn. Dwi’n siwr y byddai nifer fawr o bobol sydd yn ymwneud ag ymddiddori yn Hacio’r Iaith â diddordeb mewn cystadlu: Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth arbennig i hybu arloesedd, a fydd yn cychwyn eleni yn Eisteddfod Sir Gâr. Bwriad y gystadleuaeth hon yw annog Cymry o bob oed… Parhau i ddarllen Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru

Dw i newydd ddarllen y neges e-bost isod oddi wrth Golyg. Annwyl gyfaill, Mae’n ddrwg gen i gyhoeddi fod Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru, wedi dod i ben oherwydd galw isel. Hoffwn hefyd ymddiheuro am y modd daeth y traciwr i ddiwedd mor sydyn rhai dyddiau yn ôl. Rhannwyd dros 4,000 o… Parhau i ddarllen RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru

Diwrnod Ada Lovelace 15/10/2013: dathlu llwyddiannau menywod yn y maes technoleg

Mae Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd pob blwyddyn ers 2009, sef dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.  Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Dydd Mawrth 15fed o Hydref… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 15/10/2013: dathlu llwyddiannau menywod yn y maes technoleg

Data: 9.9% o areithiau yn y Cynulliad yn Gymraeg

Mae Kevin Donnelly wedi dadansoddi’r Cofnod er mwyn cyfrif pa ganran o sylwadau ac areithiau a anerchwyd yn Gymraeg. Y ganran yn y trydydd Cynulliad? Dim ond 9.9%. Mae rhagor o wybodaeth yn ei gofnod blog yn ogystal â’i gorpws a pheriant chwilio o’r enw Kynulliad3. Pam mae’r ganran mor isel? Oes gwleidydd Cymraeg o gwmpas sydd yn… Parhau i ddarllen Data: 9.9% o areithiau yn y Cynulliad yn Gymraeg

RIP Google Reader. Hir oes i CommaFeed Cymraeg.

Dw i’n dibynnu ar ddarllenydd RSS am fy newyddion diweddaraf. Yn anffodus mae Google yn troi Reader i ffwrdd am byth ar ddiwedd y mis hwn. Os wyt ti wedi ei ddefnyddio peidiwch anghofio bod angen allforio eich ffrydiau cyn iddyn nhw tynnu’r plwg. Fel arbrawf dw i wedi bod yn defnyddio CommaFeed.com fel darllenydd RSS… Parhau i ddarllen RIP Google Reader. Hir oes i CommaFeed Cymraeg.

#creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol

Dwi yng nghynhadledd #creadigidol yng Nghaernarfon heddiw (ond mae ar y we ac yng Nghaerdydd hefyd). Dwi newydd gyflwyno ar y pwnc uchod felly meddwl baswn i’n postio dolenni i’r cyflwyniad yma. Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn a dwi’n falch iawn o weld bod lot o’r pryderon oedd gen i yn y cyflwyniad… Parhau i ddarllen #creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol

TripAdvisor yn gwrthod derbyn adolygiadau yn Gymraeg

Am wefan mor ‘rhyngwladol’ mae’n siom i weld tystiolaeth o bolisi ieithyddol cyfyngedig TripAdvisor. Noder y frawddeg ymosodol-oddefol ar y diwedd – iawn, gwawn ni jyst dilyn eich rheolau a pharhau i greu cynnwys i chi am ddim yn Susnag neu Eidaleg te! Diolch i Lowri Roberts am y tip. (Sut oedd Llety Bodfor eniwe? Dydyn ni dal ddim yn… Parhau i ddarllen TripAdvisor yn gwrthod derbyn adolygiadau yn Gymraeg