Cyfieithu Disqus

Fel rhywun wnaeth gyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Disqus yn y gorffennol, ges i ebost ganddyn nhw heddiw’n dweud eu bod wedi newid gwefannau/widgets ac angen cyfieithu o’r newydd. Dwi’n gweld mwy o flychau sylwadau Facebook na rhai Disqus dyddia ma felly dwn i ddim faint o flaenoriaeth ydi hwn mewn gwirionedd. Ond dyma’r ddolen os oes… Parhau i ddarllen Cyfieithu Disqus

SWYDD: Darlithydd Peirianneg Meddalwedd Cyfrwng Cymraeg (Prifysgol Aberystwyth)

Dwi’n andros o gyffrous bod y swydd yma wedi dod i Aberystwyth. Unrhyw bobol haciaith efo diddordeb? Nabod rhywun arall? Pasiwch yr wybodaeth ymlaen plis. Dyma’r manylion oddi ar dudalen swyddi’r Brifysgol: Darlithydd mewn Peirianneg Meddalwedd – Adran Cyfrifiadureg (Cyfnod penodol o 5 mlynedd yn y lle cyntaf) Graddfa 7/8 (£33,230-£36,298; £37,382-£44,607) yn ddibynnol ar… Parhau i ddarllen SWYDD: Darlithydd Peirianneg Meddalwedd Cyfrwng Cymraeg (Prifysgol Aberystwyth)

Prif Cyngor Sir Caerfyrddin yn erbyn Jacqui “Caebrwyn” Thompson

Mae achos enllib yn dechrau heddiw rhwng Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin a blogiwr lleol. Mae Jacqui Thompson o Lanwrda, sy’n blogio dan yr enw ‘Caebrwyn’ ac wedi bod yn feirniadol o bolisïau cynllunio’r cyngor sir, yn dwyn achos yn erbyn y Prif Weithredwr, Mark James. Ond mae e hefyd yn dwyn achos o enllib yn… Parhau i ddarllen Prif Cyngor Sir Caerfyrddin yn erbyn Jacqui “Caebrwyn” Thompson

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post

Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Recordiad)

Y mis diwethaf es i i weld cyflwyniad gan Dr Jeremy Evas o’r enw Y Gymraeg mewn oes ddigidol. Mae Jeremy wedi rhannu’r cyflwyniad, yr awdio a’r ddogfen sydd yn mynd gyda phopeth. Diolch Jeremy. Dyma’r awdio ar Soundcloud. Dyma’r ddogfen gyda gwybodaeth cefnogol ar Scribd: Y Gymraeg mewn oes ddigidol/Welsh in a digital Age… Parhau i ddarllen Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Recordiad)

Gemau fideo Cymraeg – beth yw’r cefndir a beth fasen ni eisiau gael?

Dwi wedi bod yn pendroni am y pwnc yma neithiwr felly dyma ambell drydariad yn rhoi fy meddyliau lawr. Beth ydach chi’n feddwl am y pwnc? Ydi o’n hanfodol? Ydi o’n bosib? Be ma gwledydd eraill wedi llwyddo i’w wneud? Sut mae nhw wedi gwneud hynny a gyda pha fesur op lwyddiant? Ma’n faes sydd… Parhau i ddarllen Gemau fideo Cymraeg – beth yw’r cefndir a beth fasen ni eisiau gael?

Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg

Caiff ystadegau’r Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu rhyddhau ar dydd Mawrth 11eg Rhagfyr 2012, ymhlith ystadegau eraill. Mae prinder o wybodaeth Cymraeg amdano fe ar hyn o bryd. (Dw i ddim yn hoff iawn o’r cyfrif Cymraeg Cyfrifiad2011, mae’n wan.) Dw i’n siwr bydd pobl sydd yn hoffi data eisiau dadansoddi’r canlyniadau gan gynnwys… Parhau i ddarllen Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg

Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle

Rydyn ni wrthi’n drefnu Hacio’r Iaith 2013 yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ac mae’n fraint i ddweud bod modd cofrestru lle am ddim heddiw! Manylion Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013 9:30YB – 5:00YH (amser cau i’w gadarnhau) Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru Diolch i Illtud Daniel a phobl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle

Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron

Literatim (Android) Yn ein pabell yn Steddfod Gen eleni cyflwynodd David Chan ei brosiect newydd, bysellfwrdd darogan Cymraeg ar Android. Mae fe wedi bod yn gweithio’n galed ar y meddalwedd fel menter annibynnol llawrydd. Roedd ambell i berson yn y pabell mis Awst yn dweud bod nhw yn fodlon symud o ffonau eraill i Android… Parhau i ddarllen Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron

Hacio’r Iaith wedi ennill blog technoleg gorau yn y #walesblogawards

Dwi ddim yn un mawr am y math yma o wobrwyon, ond *ma* hi’n neis cael cydnabyddiaeth gan bobol eraill yn y maes. Ac mi gafodd @hywelm a @dailingual noson allan! Dym’r llun i brofi:  Mi ddwedodd y beirniaid bethau neis iawn chwarae teg (gallwch chi wylio’r fideo yma – tua 49:00), gan gynnwys y… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith wedi ennill blog technoleg gorau yn y #walesblogawards