Ogwen360: prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen

Siôn Richards, myfyriwr doethuriaeth Prifysgol Aberystwyth mewn cyd-weithrediad â Golwg360, sy’n trafod prosiect sy’n ran o’i ymchwil i newyddion lleol iawn trwy gyfrwng y Gymraeg. […]

Ddydd Gwener diwethaf bu i mi lansio prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen.

Bwriad y prosiect yw darganfod strwythurau ar gyfer cynhyrchu cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth a newyddion lleol.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol (Twitter a Facebook) fel llwyfan dosbarthu cynnwys, yn ogystal â man ar gyfer rhyngweithio a thrafod pynciau, gyda’r llwyfannau’n galluogi rhyngweithio a chyfranogiad drwy rannu, hoffi a sgwrsio.

Bydd hi’n ddiddorol i weld datblygiad Ogwen360 dros yr wythnosau nesaf. Pob lwc/bendith iddynt.

Byddwn i’n cwestiynu’r penderfyniad i beidio cael unrhyw wefan neu blog o gwbl (am sawl rheswm) ond gawn ni weld!

Gallech chi ddarllen mwy am y meddylfryd tu ôl i Ogwen360 yn y cofnod blog manwl hwn gan Siôn Richards ar Golwg360.