Rhestr o wefannau Cymraeg colledig: Dim Cwsg, Pep le Pew, Dic Sais…

‘Dyn ni wedi dechrau tudalen o wefannau Cymraeg colledig ar Hedyn. Mae 36 gwefan arni hi eisoes gydag ambell i ddolen i archifau. Pam ydyn ni’n creu tudalen o hen wefannau Cymraeg? Ymchwil ac ysbrydoliaeth ydy dau reswm. Mae teimlad hefyd bod pobl yn anghofio faint sydd wedi ei gyflawni yn Gymraeg ar y we,… Parhau i ddarllen Rhestr o wefannau Cymraeg colledig: Dim Cwsg, Pep le Pew, Dic Sais…

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru  ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015. Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg. Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif… Parhau i ddarllen Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Dewch i bethau tech/iaith yn #Steddfod2014

Rydym wedi casglu rhestr o ddigwyddiadau sy’n ymwneud a thechnoleg ac iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2014: Tech/iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2014: rhestr o ddigwyddiadau Ar hyn o bryd mae’r rhestr yn cynnwys digwyddiadau gyda: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ffrwti Hacio’r Iaith Prifysgol Bangor Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig Ewch i’r wici i ychwanegu rhagor… Parhau i ddarllen Dewch i bethau tech/iaith yn #Steddfod2014

Dim ond 10% o ymwelwyr Hacio’r Iaith yn dewis Cymraeg (Ydych chi wedi Cymreigio eich porwr?)

Mae gosodiad iaith cynnwys yn nodwedd bwysig ar eich porwr (e.e. Firefox, Chrome). Dw i wedi bod yn edrych at ddata yn ystod hanes y wefan Hacio’r Iaith ers Ionawr 2010, sy’n ymddangos bod 53% o ymweliadau yn ffafrio Saesneg UDA – yn ddiarwybod i’r rhan fwyaf dw i’n credu. Mae 29% yn ffafrio Saesneg Prydain… Parhau i ddarllen Dim ond 10% o ymwelwyr Hacio’r Iaith yn dewis Cymraeg (Ydych chi wedi Cymreigio eich porwr?)

Golwg360 yn newid ei system sylwadau i Disqus

Dywedodd Golwg360: […] mae gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 wedi cyflwyno adnodd sylwadau newydd i’r wefan. Bydd darllenwyr bellach yn gallu gadael eu sylwadau ar straeon gan ddefnyddio system ‘Disqus’ sy’n cael ei ddefnyddio’n eang gan flogiau a gwefannau newyddion. Bwriad symud at system sylwadau newydd yn ôl Golwg360 ydy cynnig mwy o gyfleoedd rhyngweithiol i… Parhau i ddarllen Golwg360 yn newid ei system sylwadau i Disqus

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post

Cofio am Arfon Rhys

Daeth y newyddion trist heno bod Arfon Rhys wedi marw ar ôl salwch byr yn 72 mlwydd oed. Des i adnabod Arfon trwy ddigwyddiadau Hacio’r Iaith ac roedd yn bleser cael ei gwmni hawddgar ar sawl achlysur i drafod sut oedd modd gwneud y defnydd gorau o ddatblygiadau technoleg newydd. Daeth atom yn llawn brwdfrydedd… Parhau i ddarllen Cofio am Arfon Rhys

Apple: nid oes lleoleiddiad Cymraeg ar yr App Store

Mae Eiry Rees Thomas wedi bod yn cyhoeddi aps dwyieithog ar App Store Apple ac eisiau rhannu ei phrofiadau diweddar am broblem sylfaenol. Yn ddiweddar, cyhoeddais dri o aps dwyieithog sydd ar lwyfan Apple/ App Store/ iTunes. Mae teitl y gyfres yn ymddangos fel ‘The Flitlits’, heb gyswllt o gwbl i’r teitl Cymraeg, sef ‘Y… Parhau i ddarllen Apple: nid oes lleoleiddiad Cymraeg ar yr App Store

SWYDD: Datblygydd Gwe, Rondo Media

Mae cwmni teledu Rondo, sy’n gyfrifol am raglenni fel Sgorio, Rownd a Rownd, Gwlad yr Astra Gwyn a Gwefreiddiol, yn chwilio am ddatblygydd gwe i weithio o’u swyddfa yng Nghaernarfon. Rhaglennydd/Datblygydd Gwe I ymuno ag adran ddigidol ac aml-gyfryngol Rondo. Byddai profiad o HTML, CSS, PHP a SQL yn ddelfrydol. Cytundeb blwyddyn i gychwyn Ebrill… Parhau i ddarllen SWYDD: Datblygydd Gwe, Rondo Media

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

Aildrydar dim ond menywod

Dw i newydd ddarllen cofnod blog diddorol gan Anil Dash am ei flwyddyn o aildrydar dim ond menywod, y profiadau mae fe wedi cael a’r gwersi mae fe wedi dysgu. […] Maybe the most surprising thing about this experiment in being judicious about whom I retweet is how little has changed. I just pay a… Parhau i ddarllen Aildrydar dim ond menywod

Llywodraeth Cymru: grantiau ar gyfer prosiectau digidol Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau manylion am gyfres arall o grantiau ar gyfer prosiectau digidol Cymraeg: Rydym yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am grant o raglen 2014/2015. Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion ein cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg. Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r… Parhau i ddarllen Llywodraeth Cymru: grantiau ar gyfer prosiectau digidol Cymraeg