Cwestiynu app symudol Cyngor Wrecsam

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2012/04/02/wrexham-s-looking-local-app-fails-to-set-internet-on-fire-55578-30671980/ COUNCIL bosses are urging the public to overcome their app-athy and use smart phones and iPads to report problems. The authority’s Looking Local app was trumpeted by Wrexham Council last year as a great way to report a range of social issues via the web. But although there have been a few reports trickling… Parhau i ddarllen Cwestiynu app symudol Cyngor Wrecsam

Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad

Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i’w arwain. […] Adroddiad: Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol (PDF) a datganiad heddiw Efallai bydd lot o’r argymelliadau o ddiddordeb i bobol… Parhau i ddarllen Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad

Cwestiynau am ddarpariaeth e-lyfrau Gwales

Mae gwales.com – gwefan lyfrau’r Cyngor Llyfrau – wedi cyhoeddi ei bod bellach yn gwerthu e-lyfrau yn ogystal â llyfrau print. […] Wrth groesawu’r datblygiad hwn dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £36,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i hwyluso gwerthu… Parhau i ddarllen Cwestiynau am ddarpariaeth e-lyfrau Gwales

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , ,

i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?

Mae gŵyl i-docs ar fin dechrau ym Mryste. Yno byddan nhw’n trafod y diweddaraf yn y byd ffilmiau dogfen rhyngweithiol. Dwi’n ffeindio’r maes yma’n gyffrous iawn ar hyn o bryd, er bod na elfennau ohono sydd yn gwneud i fi deimlo ei fod yn ddefnydd ryngweithio am y rhesymau anghywir, a bod yna fformiwla o… Parhau i ddarllen i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?

Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?

Dwi wedi bod yn meddwl am ein sefydliadau yng Nghymru, a’r potensial creadigol sydd wedi ei gloi tu mewn i rai ohonyn nhw. Wn i ddim os oes unrhyw werth i’r syniad yma ond dwi am ei wyntyllu beth bynnag: Beth pe bai pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru (Amgueddfa Gen, Llyfrgell Gen, Llywodraeth ayyb) yn… Parhau i ddarllen Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?

Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti… Parhau i ddarllen Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Meic Agored Inventorium – trafod syniadau tech ym Mangor, Ebrill 2012

Dw i’n pasio neges Inventorium ymlaen. Beth sy’n digwydd i’ch eiliadau eureka? Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch syniad gwych ar ôl ei sgrifennu ar napcyn? Mae sesiwn Meic Agored Inventorium yn gyfle i chi rannu’r syniadau gorau rydych wedi’u hysgrifennu ar napcyn, ar fat cwrw, ac ar gefn eich llaw. Mae croeso i unrhyw… Parhau i ddarllen Meic Agored Inventorium – trafod syniadau tech ym Mangor, Ebrill 2012

Sawl llun, i’r Cwîn

http://www.theregister.co.uk/2012/03/14/face_britain_copyright_grab/ Mae prosiect o’r enw Face Britain yn ecsploetio lluniau gan blant – ac wedi cymryd pob hawl eiddo deallusol. Anhygoel. Maen nhw wedi casglu 70,000 llun gwahanol hyd yn hyn. Y bwriad ydy llun mosaig enfawr o Elizabeth Windsor… Darllena’r erthygl.