Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad

Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i’w arwain. […] Adroddiad: Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol (PDF) a datganiad heddiw Efallai bydd lot o’r argymelliadau o ddiddordeb i bobol… Parhau i ddarllen Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad

Waa! Richard Stallman yn areithio yn Aberystwyth mis yma

Bydd Richard Stallman, tad y mudiad meddalwedd rydd, yn siarad am beryg patentau meddalwedd yn Aberystwyth. 31 mis Hydref 2011 4PM – 7PM Y Theatr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DE Mwy o wybodaeth: http://www.fsf.org/events/20111031-dsp-aberystwyth Llun gan pablojcoloma (CC)

Trwydded gyhoeddus gyffredinol GNU (GPL yn Gymraeg)

Dw i newydd ffeindio GPL 2.0 yn Gymraeg(*) Felly dw i wedi ailgyhoeddi e. http://hedyn.net/trwydded_gyhoeddus_gyffredinol_gnu_gpl_yn_gymraeg Mae trwyddedau yn mor bwysig. Mae fe’n rhan o adran Hedyn newydd, Trwyddedau. Dros rhyddid. (*) ffeindiais i GPL Cymraeg yn yr ystorfa WordPress, diolch Iwan, pwy wnaeth e?

cy.wordpress.org

Rydyn ni’n gweithio gyda’r cymuned WordPress ac Automattic ar wefan swyddogol WordPress Cymraeg. Cartref Cynllun: rhywle canolog am WordPress Cymraeg. Bydd e’n bosib mynd i cy.wordpress.org a lawrlwytho pecyn Cymraeg heb ffwdan. 1. Mae’r wefan cy.wordpress.org yn rhedeg WordPress gyda thema arbennig Rosetta. Dw i dal yn cyfieithu’r thema. 2. Mae WordPress 3.0 ar y… Parhau i ddarllen cy.wordpress.org