Cwestiynu app symudol Cyngor Wrecsam

http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2012/04/02/wrexham-s-looking-local-app-fails-to-set-internet-on-fire-55578-30671980/

COUNCIL bosses are urging the public to overcome their app-athy and use smart phones and iPads to report problems.

The authority’s Looking Local app was trumpeted by Wrexham Council last year as a great way to report a range of social issues via the web.

But although there have been a few reports trickling into the council, local feeling is the app has so far failed to spark the public’s interest.

Downloading the app makes it easier to report litter, dog fouling, fly tipping, pot holes and road repairs and anti-social behaviour – residents can also send photos as evidence.

However this particular technological revolution may be in need of a cyber jump-start, though the council insists it is popular. […]

Mae dolen i’r app iPhone yma. Os wyt ti’n chwilio am yr app Android mae’n rhaid mynd i’r tudalen Saesneg am ryw reswm.

Dau problem gyda’r strategaeth yma:

1. Mae potensial i’r syniad o app symudol yn enwedig os mae rhywun eisiau adrodd problem tra bod nhw yn crwydro’r strydoedd (mewn theori). Ond mae platfform gyda lot mwy o bobol nag iPhone ac Android, sef Y WE. Ac mae’r we yn symudol hefyd i ryw raddau trwy 3G a fersiynau symudol. Mae’n rhaid ystyried app ar y we (web app) yn sgil apps symudol brodorol. Yn y cyd-destun yma byddwn i byth yn lansio app symudol brodorol cyn app ar y we. Ond byddwn i drio rhywbeth syml fel cyfeiriad ebost cyn ystyried app, sy’n ddrud.

2. Mae’r cyngor yn defnyddio Looking Local, sef system Prydeinig, felly does dim fersiwn Cymraeg ar gael. Oh diar.

4 sylw

  1. Yn union.

    Tybed os maen nhw yn ffafrio rhywbeth sydd wedi cael ei chomisiynu gan bobol fewnol…

    Bydd help Cyngor Wrecsam i leoleiddio FixMyStreet yn dda. Wedyn mae unrhyw gyngor yng Nghymru yn gallu ei defnyddio. Mae’r rhan fwyaf o broblemau yn dod dan y categorïau FixMyStreet ac mae croeso iddyn nhw addasu’r system hefyd.

  2. Ma Ushahidi / Crowdmap (a Ble Mae’r Gymraeg? de!) yn cynnig tri ffordd syml i adrodd a mapio pethau: sms, ebost a tweet gyda hashtag. Mae na app hefyd sydd efo profiad mwy cyfoethog (ychwanegu llun, gps ac ati) ond faswn i’n tybio taw’r tri cynta fasa lot o bobol yn defnyddio o’u ffon symudol cyn agor app.

    Fwyfwy mae na apps sy’n cael eu lawrlwytho, agor unwaith, a byth yn cael eu cyffwrdd eto dwi’n teimlo. Beth sydd haws o ran mynediad i’r gynulleidfa fwyaf? Onid yr hyrwyddo sy’n bwysig yn y pen draw? Ymwybyddiaeth o’r gallu i adrodd am rywbeth.

  3. Mae angen lot o gynhwysion i lwyddo: hyrwyddo yn sicr ond mae’n rhaid cynnig platfformau mor eang a phosib fel y we ac efallai SMS.

    Hefyd mae’n rhaid meddwl am gymhelliant – pam fydd pobol yn adrodd problemau? Mae’r cwestiwn yn dyfnach na marchnata achos maen nhw yn gofyn pobol i gyfranogi i rywbeth, i bwrpas – sydd yn wahanol i’r pwrpas o safbwynt y cyngor.

    Does ‘na ddim hud mewn app ar ei ben ei hun. Maen nhw yn gallu newid yr app er mwyn iterato ond efallai mae’n rhy hwyr.

Mae'r sylwadau wedi cau.