SWYDD: Darlithydd Peirianneg Meddalwedd Cyfrwng Cymraeg (Prifysgol Aberystwyth)

Dwi’n andros o gyffrous bod y swydd yma wedi dod i Aberystwyth. Unrhyw bobol haciaith efo diddordeb? Nabod rhywun arall? Pasiwch yr wybodaeth ymlaen plis.
Dyma’r manylion oddi ar dudalen swyddi’r Brifysgol:

Darlithydd mewn Peirianneg Meddalwedd – Adran Cyfrifiadureg

(Cyfnod penodol o 5 mlynedd yn y lle cyntaf)

Graddfa 7/8 (£33,230-£36,298; £37,382-£44,607) yn ddibynnol ar brofiad

Dymuna’r Brifysgol benodi darlithydd i ddatblygu darpariaeth Gymraeg mewn Peirianneg Meddalwedd yn yr Adran Cyfrifiadureg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn sydd wedi cwblhau, neu sydd bron â chwblhau, PhD mewn maes perthnasol neu sydd â phrofiad proffesiynol yn y maes; sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol; a sydd â chefndir ac agenda ymchwil sy’n berthnasol i’r maes ac a fyddai’n cryfhau portffolio ymchwil yr Adran a’r Brifysgol.

Ariennir y swydd drwy Gynllun Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n darparu cyllid i Sefydliadau Addysg Uwch Cymru er mwyn cyflogi staff academaidd a meithrin darlithwyr o’r radd flaenaf sy’n adnabyddus am flaengarwch a rhagor

iaeth ym maes dysgu ac ymchwil. Byddy Coleg Cymraeg yn darparu £1m yn flynyddol am gyfnod o bum mlynedd yn y lle cyntaf er mwyn cefnogi swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg. Rhagwelir y bydd y cynllun hwn yn arwain at gyllido dros 100 o swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg erbyn blwyddyn academaidd

Mae’r Adran Cyfrifiadureg wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau nawdd ar gyfer un o’r swyddi hyn. Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd yn Aberystwyth a thrwy Gymru sydd yn gweithio tuag at gyflawni nod y Coleg Cymraeg o sicrhau statws llawn i’r Gymraeg fel cyfrwng ar gyfer addysg ac ymchwil o fewn y sector prifysgolion. Bydd gan y deiliad swyddogaeth greiddiol wrth gyflawni cynlluniau cenedlaethol y Coleg ar gyfer y maes hwn ac wrth helpu i gyrraedd y targedau a osodwyd yn y pwnc hwn ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a niferoedd myfyrwyr sy’n dewis astudio yn Gymraeg.

Ac o’r disgrifiad manylach:

Mae tua 10% o israddedigion yr Adran Cyfrifiadureg dros y blynyddoedd diweddar yn siaradwyr Cymraeg. Mae cyflogwyr yn aml yn cynnig cyfleoedd am swyddi mewn diwydiant am flwyddyn gyda’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol, ac mae rhychwant o swyddi ym maes TG a meysydd cyffelyb yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn gofyn am y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg.

Fodd bynnag, ceir tystiolaeth yn y Brifysgol a chan gyflogwyr lleol sy’n awgrymu bod diffyg siaradwyr Cymraeg mewn meysydd cyfrifiadurol. Mae’n hanfodol bod graddedigion yn cael eu hyfforddi i ddiwallu’r angen am siaradwyr Cymraeg yn y maes hwn, ac er mwyn mynd i’r afael â’r galw mae’r Adran Cyfrifiadureg wedi cyflwyno modiwlau cyfrwng Cymraeg i bob blwyddyn yn ei chynlluniau gradd. Nod y swydd hon felly yw ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn yr Adran, ac mae’n cynnig cyfle cyffrous i ddarlithydd brwdfrydig ddatblygu darpariaeth arloesol a blaengar mewn maes sy’n gymharol newydd i astudio drwy’r Gymraeg.

Edrych mlaen i gael cydweithio gyda nhw!

3 sylw

  1. Os dwi wedi deall yn iawn fydd dim modd cael y cwrs i gyd yn Gymraeg eto oherwydd ystod modiwlau ayyb. Ond bydd y person yn gyfrifol am ddatblygu modiwlau Cymraeg, seminarau Cymraeg a ballu, ac felly cynyddu canran y cwrs sydd ar gael yn Gym. Mae’r swydd yn eithaf eang o be dwi’n weld, a siwr o fod bod rhyddid i ddylunio a chyflwyno modiwlau newydd.

Mae'r sylwadau wedi cau.