Gemau fideo Cymraeg – beth yw’r cefndir a beth fasen ni eisiau gael?

Dwi wedi bod yn pendroni am y pwnc yma neithiwr felly dyma ambell drydariad yn rhoi fy meddyliau lawr. Beth ydach chi’n feddwl am y pwnc? Ydi o’n hanfodol? Ydi o’n bosib? Be ma gwledydd eraill wedi llwyddo i’w wneud? Sut mae nhw wedi gwneud hynny a gyda pha fesur op lwyddiant?

Ma’n faes sydd heb ei gyffwrdd bron o ran trafodaeth gyhoeddus heblaw ambell waith yn dilyn rhyddhau sawl gêm “gyntaf yn Gymraeg” ar iphones. Mi fasa’n dda clywed gan Gruff Prys hefyd! Galw Gruff!

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286255856692109313″]

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286264587928608771″]

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286268804600844290″]

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/286269373247803392″]

Dechreuwch y drafodaeth yma! Rhowch sylw isod yn dweud eich dweud os da chi’n gamer, yn riant, yn ddatblygwr neu’n gynllunydd iaith.

5 sylw

  1. Mae gen i ddiddorddeb mewn addasu gemau ‘casual’ arlein i’r Gymraeg – y gemau hynny sy’n cael eu chwarae mewn porwr. Dwi di arbrofi gyda sawl safle ond y gorau hyd yma yw PlayMyCode.com.

    Dyma arbrawf:

    http://www.playmycode.com/play/game/melynmelyn/peli

    Fersiwn Cymraeg o’r gem Life Just Bounces gan badlydrawnrod. Amcan y gem yw dinistrio’r blociau er mwyn cael sgor mor uchel a phosib.

  2. Nid enghraifft ydy hon, ond mi fyddai hi’n gymharol hawdd cyfieithu rhai o gemau achos o’r strwythr. Mae rhai yn arfer defnyddio ffeil deialog bod chi’n medru’i newid – e.e. llawer o gemau chwarae rôl bod pobl yn ei addasu yn aml. Ond y problem mawr ydy, fyddai pobl yn ei chwarae nhw yn Gymraeg? Achos er fydd hi’n eitha hawdd ei haddasu nhw, mi fydd na llawer o waith cyfieithu i’w wneud, a does neb eisiau gwneud y fath beth a neb yn rhoi sylw.

Mae'r sylwadau wedi cau.