TripAdvisor yn gwrthod derbyn adolygiadau yn Gymraeg

tripadvisor-llety-bodfor-lowri_amlwch

Am wefan mor ‘rhyngwladol’ mae’n siom i weld tystiolaeth o bolisi ieithyddol cyfyngedig TripAdvisor. Noder y frawddeg ymosodol-oddefol ar y diwedd – iawn, gwawn ni jyst dilyn eich rheolau a pharhau i greu cynnwys i chi am ddim yn Susnag neu Eidaleg te! Diolch i Lowri Roberts am y tip. (Sut oedd Llety Bodfor eniwe? Dydyn ni dal ddim yn gwybod.)

Mae un person o leiaf wedi llwyddo i roi adolygiad yn Gymraeg ar TripAdvisor ond am faint fydd cynnwys Cymraeg yn fyw yna? Ddylen ni boddran o gwbl gyda gwefannau Generalísimo Franco-aidd o’i fath? Dyma’r cwestiwn sy’n taro fi pan dw i’n cael profiadau tebyg yn enwedig ar wefannau eraill sydd yn aml iawn yn fod i wneud arian ar sail gwaith defnyddwyr, e.e. Quora yn dileu cynnwys Cymraeg yn 2011.

Weithiau anhawster wrth fonitro cynnwys ydy’r esgus (er enghraifft dyma beth oedd y Guardian yn arfer dweud am sylwadau Cymraeg heb esboniad/cyfieithiad Saesneg).

Mae rhai o wasanaethau ar-lein yn rhy fawr i’w osgoi – byddai Llywodraeth Cymru yn gallu helpu i berswadio pobl fel Google, Apple, Facebook, Microsoft i fabwysiadu’r Gymraeg ar bob platfform gan gynnwys y we, symudol a’r bwrdd gwaith. Ond ydyn ni’n ysu am y fraint i gyfrannu i rywbeth fel TripAdvisor? Hoffwn i glywed beth mae gwestai a busnesau eraill sy’n cefnogi’r Gymraeg yn feddwl.

O.N. Peidiwch anghofio adolygiad.com, gwasanaeth gan y Cymry i’r Cymry sydd yn hapus i dderbyn adolygiadau o ffilmiau, bwyd, llyfrau, llety ayyb! Defnyddiwch y tag #adolygiad ar Twitter er mwyn cynnig adolygiad. Mae’r archif yn chwiliadwy. Ar hyn o bryd dw i’n trio cuddio unrhyw beth sydd mewn iaith arall 100% ond mae’n teimlo fel achos gwahanol rhywsut. 🙂

4 sylw

  1. Diolch am godi hyn. Fe ges i’r un broblem. Sai’n siwr beth yw’r ateb gorau. Croesawu defnydd #adolygiad – byddai’n gwneud mwy o ymdrech i ddefnddio hwnna.

  2. Defnyddiwch aryffordd.com, gwefan casglu adolygiadau Bwytai, Caffis, Tafarndai, Gwestai a Gwersylloedd Cymru a’r ffiniau drwy Gyfrwng y Gymraeg. (Yn syml; TripAdvisor Cymraeg)

Mae'r sylwadau wedi cau.