http://www.coderdojocymru.org/?page_id=17 CoderDojo Cymru is all about about encouraging and enthusing young people from the ages of 8 to 14 to learn and enjoy coding. Cyfieithiad Cymraeg ar ei ffordd gan Gwion Ll, ac mae mentora ar gael yn Gymraeg hefyd fel dwi’n dallt. Gwych iawn.
Awdur: Rhodri ap Dyfrig
Cyfieithu ‘checkin’ i’r Gymraeg
Dwi’n chwilio am drosiad o’r ferf ‘to check in’ a’r enw ‘checkin’. Mae ‘cofnodi’ / ‘cofnodyn’ yn apelio i fi ar hyn o bryd, ond efallai gallai dryswch godi gyda mwy nag un cofnodyn (cofnodau) sydd yn debyg i gofnod blog. Dyma rai o’r syniadau hyd yn hyn. Be di’ch barn chi? http://storify.com/nwdls/cyfieithu-r-term-checkin-i-r-gymraeg
SWYDD: Datblygwr Meddalwedd (Prosiect ITV Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
http://www.llgc.org.uk/index.php?id=1189&L=1 Ma Archif Sgrin a Sain Cymru yn derchrau ar brosiect newydd gyda Archif ITV Cymru. Bydd hon yn swydd ddifyr iawn dwi’n siwr.
Defnyddio categoriau Wikipedia a meddalwedd adnabod llais ar gyfer tagio clipiau sain a fideo archif yn awtomatig
http://www.bbc.co.uk/blogs/researchanddevelopment/2012/03/automatically-tagging-the-worl.shtml Efallai taw beth sy’n ddiddorol fan hyn o berspectif Cyrmaeg ydi 1) defnyddioldeb ail-law cronfeydd data fel Wikipedia; a 2) pwysigrwydd meddalwedd adnabod llais Cymraeg cryf ar gyfer y dyfodol. Ella bod angen i mi fuddsoddi chydig o amser yn Wicipedia er fy mhryderon amdano.
i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?
Mae gŵyl i-docs ar fin dechrau ym Mryste. Yno byddan nhw’n trafod y diweddaraf yn y byd ffilmiau dogfen rhyngweithiol. Dwi’n ffeindio’r maes yma’n gyffrous iawn ar hyn o bryd, er bod na elfennau ohono sydd yn gwneud i fi deimlo ei fod yn ddefnydd ryngweithio am y rhesymau anghywir, a bod yna fformiwla o… Parhau i ddarllen i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?
Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?
Dwi wedi bod yn meddwl am ein sefydliadau yng Nghymru, a’r potensial creadigol sydd wedi ei gloi tu mewn i rai ohonyn nhw. Wn i ddim os oes unrhyw werth i’r syniad yma ond dwi am ei wyntyllu beth bynnag: Beth pe bai pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru (Amgueddfa Gen, Llyfrgell Gen, Llywodraeth ayyb) yn… Parhau i ddarllen Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?
Google, Busnesau a’r Gymraeg ( + bonus rant am newyddion Cymraeg arlein)
‘Google yn cynorthwyo busnesau i gael presenoldeb ar y we’ http://www.bbc.co.uk/newyddion/17265560 Ond faint o gymorth fyddan nhw’n ei gael i wneud gwefannau dwyieithog? Pan ma Google mor llac ei ymroddiad i’r Gymraeg ar chwiliadau, lleoleiddio ei apps ei hun, ac ati dwi’n amau y bydd na. Os nad oes cymorth i greu gwefannau dwyieithog, a… Parhau i ddarllen Google, Busnesau a’r Gymraeg ( + bonus rant am newyddion Cymraeg arlein)
Raspberry Pi a’r Gymraeg
Mae Huw Waters wedi blogio yn esbonio popeth am y cyfrifiadur bach hwn: Ddoe (29ain Chwefror 2012) cyhoeddodd Sefydliad Raspberry Pi bod ei chyfrifiadur £22 ar gael i’w brynu. Gwerthodd y 10,000 cyntaf o fewn munudau. Fersiwn i ddatblygwyr sydd ar gael gyntaf, ond bydd fersiwn addysgiadol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. O safbwynt… Parhau i ddarllen Raspberry Pi a’r Gymraeg
Fideo Haciaith 2012: Radio’r Cymry (Huw Marshall)
Gêm Gymraeg ar gyfer iOS: Clocwaith y Llygoden
Clocwaith y Llygoden, gêm newydd am yr iPod ac iPad. Chwiliwch am ‘Clockwork the Mouse’ yn yr app store.