Cyfieithu ‘checkin’ i’r Gymraeg

Dwi’n chwilio am drosiad o’r ferf ‘to check in’ a’r enw ‘checkin’.

Mae ‘cofnodi’ / ‘cofnodyn’ yn apelio i fi ar hyn o bryd, ond efallai gallai dryswch godi gyda mwy nag un cofnodyn (cofnodau) sydd yn debyg i gofnod blog.

Dyma rai o’r syniadau hyd yn hyn. Be di’ch barn chi?

http://storify.com/nwdls/cyfieithu-r-term-checkin-i-r-gymraeg

6 sylw

  1. Presenoli / Presenoliad?

    chydig mwy o opsiynau…

    Lleoli / Lleoliad
    Marcio lle / Marc lle
    Nodi lle / Nod lle
    Nodi Lleoliad / Nodyn Lleoliad
    Mapnodi / Mapnod

  2. Dwi’n hoffi “nodi lle”. Mi fyddai’n bosib trio bathu rhywbeth tebycach i’r arddull saesneg fel lleol-nodi neu cof-leoli ond mae “nodi lle” yn eitha amlwg i rywun sydd heb glywed y term.

  3. Dyma beth sydd ar wefan maes awyr Caerdydd:
    ‘cofrestru’ – ‘to check in’
    ‘wedi eu cofrestru’ – ‘checked in’

    Os felly a fyddai ‘man cofrestru’ yn iawn ar gyfer ‘check-in (point)’?

  4. Mae’r gair “mapnodi” yn grêt am “sticio pin mewn map Google”. Ond ddim yn swnio fel ‘checkio mewn’ i mi.

    Nodi lle / nodiad lle ydi’r gora mae’n debyg.

    (I osgoi’r dryswch cofnodyn/cofnodau, fyddai rhywbeth fel “cofnodiad” yn gweithio yn lle? Neu ydi hynna’n swnio’n rong?)

  5. Nesh i ddefnyddio nod lle / nodi lle yn y diwedd am ei fod yn gryno ac yn esbonio’i hun i raddau. Diolch i bawb nath helpu!

Mae'r sylwadau wedi cau.