Holiadur BydTermCymru

I’r rhai sy’n licio terminoleg a chyfieithu, Llywodraeth Cymru yn dweud: O fis Mehefin ymlaen byddwn yn gweithio ar Gam 2 gwefan BydTermCymru – sef cywiro’r gwallau technegol sy’n weddill ac efallai wneud rhai addasiadau i’r dyluniad. Y cam nesaf wedi hynny fydd mynd ati i fireinio’r adnoddau sydd ar gael ar y wefan, a… Parhau i ddarllen Holiadur BydTermCymru

Cyfieithu ‘checkin’ i’r Gymraeg

Dwi’n chwilio am drosiad o’r ferf ‘to check in’ a’r enw ‘checkin’. Mae ‘cofnodi’ / ‘cofnodyn’ yn apelio i fi ar hyn o bryd, ond efallai gallai dryswch godi gyda mwy nag un cofnodyn (cofnodau) sydd yn debyg i gofnod blog. Dyma rai o’r syniadau hyd yn hyn. Be di’ch barn chi? http://storify.com/nwdls/cyfieithu-r-term-checkin-i-r-gymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,

.@ybwrdd yn gofyn am dermau Twitter #termau

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/YBwrdd/status/148794390121422850″] http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/20111219+D+DG+Termau+Twitter.pdf http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120306093556/http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/20111219%20D%20DG%20Termau%20Twitter.pdf Fy sylwadau brys i ar awgrymiadau Y Bwrdd: * Termau: list == rhestr mention – beth sy’n bod gyda sôn? beth yw API? microblog == meicroflog? * Cwestiwn. Ydyn ni’n ffafrio Twitter ar draul cystadleuaeth/gwasanaethau eraill? Mae rhaid ystyried y categori, nid un cwmni ar ei ben ei hun. Mae’r Bwrdd… Parhau i ddarllen .@ybwrdd yn gofyn am dermau Twitter #termau

Bantylein – diffiniad

Mae bantylein yn cyflenwi arlein. Bantylein – dim mynediad rhyngrwyd, heb signal, wedi cau’r gliniadur, wedi cuddio ffoniau, ayyb Mae’r ystyr bantylein yn glir a chywir. Mae’r term yn lot well na’r ‘byd go iawn’ achos mae arlein yn rhan o’r byd go iawn (ti’n gallu torri’r gyfraith yna, prynu stwff, wneud dy fancio yna,… Parhau i ddarllen Bantylein – diffiniad