Mae erthygl ar Golwg360 o dan y teitl
Llai o radio a theledu Cymraeg gan y BBC, yn trafod torriadau yn y nifer o oriau o ddarlledu cynnwys gwreiddiol fydd ar Radio Cymru ac bydd mwy o ail ddarlledu. Nid trafod y cwtogi ydw i eisiau yma (gellir gwneud hynny
fan hyn), ond yn hytrach y newyddion hyn:
…[bydd] Maggi Dodd yn cyflwyno rhaglen ar y we rhwng 7-8 gyda’r rhaglen honno, Dodd ar y We yn cael ei hailddarlledu ar C2 rhwng hanner nos ac un y bore.
Tra nad yw cwtogi oriau yn amlwg yn beth da, mae arbrofi gyda darlledu ar-lein yn syniad dewr. Dyma’r union raglen y dylid arbrofi gyda hi, gan mai ei chynulledfa darged yw’r kids, ac os ydy unrhyw un am wrando ar radio ar-lein, nhw ydy’r rheini.
Yn bersonol, dw i ddim wrandawr mawr ar radio, ond mae digwydd bod stereo yn ein ystafell fyw, ystafell fwyta a’n cegin ni, felly mater hawdd iawn yw troi’r radio ymlaen. Gan bod cysylltiad di-wifr gyda ni acw, mae’n dod yn haws symud y gliniadur o un ystafell i’r llall, ond dw i’n dal i’w weld bach o ffaff (am y rheswm yma, mond unwaith dw i wedi ‘tiwnio i mewn’ i
Radio Shwmae, er mawr cywilydd i mi)Â . Gyda datblygiadau pellach mewn technoleg a chysylltiadau gwell i’r we, mae’n siwr daw gwrando ar-lein yn beth haws a mwy naturiol.
Yr unig beryg efallai yw y gwelith Llywodraeth Llundain hyn fel esgus i gwtogi pellach a dweud gall popeth fynd a- lein, ond mewn gwirionnedd, rheswm dros fwy o sianeli/gorsafoedd fydd hyn.
Dw i eisiau dadfwndelu Radio Cymru ar fy mhen fy hun weithiau. Mae iPlayer a thrwyddedau cedwir pob hawl yn gweithio yn erbyn y bwriad.
O ran S4C bydd crynodebau manwl ar S4C Clic yn ddechrau da. Weithiau mae gyda nhw cyfweliad ar Wedi 7 neu rywbeth heb unrhyw gyfeiriad yn yr RSS a chrynodeb ar y we.