Am y tro cyntaf a 7fed mlwyddyn Hacio’r Iaith bydd gennym ni siaradwr gwadd i ddechrau’r diwrnod , a rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Leighton Andrews, cyn Weinidog Llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg a thechnoleg Cymraeg yn rhoi ei farn ar y pwnc ‘Llywodraeth, digidol ac arloesi’.
Byddwch yn barod am gyflwyniad difyr a phryfoclyd gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau.

Cofrestru
Peidiwch ag anghofio cofrestru am Hacio’r Iaith 2017, fydd yn digwydd yn Adeilad Pontio, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017.
Bydd mynediad am ddim i bob cyfranogwraig/cyfranogwr ac mae croeso cynnes i bawb (gan gynnwys plant – ac mae rhagor i ddilyn am sesiynau penodol i blant a phobl ifanc).
Sesiynau eraill
Rydym hefyd yn bwriadu llenwi amserlen y bore gyda sesiynau cyn y gynhadledd gan adael y prynhawn yn rhydd ar gyfer unrhyw sesiynau sydd heb eu trefnu o flaen llaw.
Felly os ydych chi eisiau cynnal sgwrs, cyflwyniad, dangos eich gwaith, neu weithdy ymarferol (da ni’n hoffi pethau ymarferol!) cysylltwch â Carl neu Rhodri trwy’r cyfryngau cymdeithasol arferol neu rowch yr wybodaeth mewn ar y Google Doc yma.
Bydd tri ardal yn Pontio gyda thri math gwahanol o sesiwn:
- Y Bocs Sebon – gofod cyflwyno, sdeil-theatr
- Y Gweithdy – ardal ar gyfer sesiynau mwy ‘hands-on’
- O Gylch y Tân – cylch ar gyfer cynnal trafodaeth a sgwrs
Cynhadledd dydd Gwener
Cofiwch fod yna Gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg hefyd ym Mangor ar ddydd Gwener 20 Ionawr 2017 (y diwrnod cyn Hacio’r Iaith). Bydd rhai ohonom ni yn mynychu’r gynhadledd yn ogystal â Hacio’r Iaith. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.
Llety
Rydyn ni wedi cael disgownt o rhyw 10% gan y Ganolfan Rheolaeth i bobl sy’n dyfynnu #techiaith wrth fwcio (yr un peth ag ar gyfer cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg).
Ewch yma am fanylion archebu llety.
Diolch yn fawr iawn i’r Ganolfan Technoleg Iaith a Chanolfan Bedwyr am gyd-drefnu a noddi’r bwyd ar gyfer Hacio’r Iaith. “Daw bola’n gefen ar gyfer trafod y rhyngrwyd”, fel dywed y Cardi modern. 🙂
Mae Carl, Delyth a finnau (a’r criw o ffyddloniaid) yn edrych mlaen yn arw i roi croeso i unrhyw eneidiau newydd sydd eisiau dod am y tro cyntaf. Mae wastad yn lot o sbort.
Welwn ni chi ym Mangor!
Leia 2:34 PM ar 13 Hydref 2017 Dolen Barhaol
Whoo! Edrych ymlaen.
Huw 12:33 PM ar 18 Hydref 2017 Dolen Barhaol
Hen bryd i bobl wneud pethe dros eu hunain!
Felly be am ddysgu sut i gychwyn gyda Python a/neu R (Anaconda a R Studio), i drawsnewid a delweddu data?
Carl Morris 9:58 AM ar 26 Hydref 2017 Dolen Barhaol
Cyffrous iawn!
Cofrestrwch am docyn am ddim ar gyfer Hacio’r Iaith 2018 ar Tocyn.cymru.
Rhowch eich syniadau ar gyfer sesiynau ar y ddogfen hon.
Rhodri ap Dyfrig 1:03 PM ar 3 Ionawr 2018 Dolen Barhaol
Blwyddyn newydd dda i chi gyd!
Ionawr yw mis mwyaf llwm y flwyddyn yn ôl unrhyw listicle diog llenwi gofod ôl-ddolig gwerth ei halen, ond nid pan mae ganddoch chi gynhadledd tech Cymraeg i edrych mlaen ato ddiwedd y mis. Iei, ac yn wir, woot.
Tocynnau
Diolch yn fawr iawn i chi am archebu tocyn – mae dros 60 wedi mynd hyn yma – sydd yn argoeli’n wych. Plis rhannwch y dudalen tocyn.cymru neu ddigwyddiad FB er mwyn cyrraedd cymaint o bobl ag sydd bosib. Ni wastad eisiau cael pobl newydd sbon i Hacio’r Iaith er mwyn cadw’r drafodaeth yn ffresh.
Ac os chi’n nabod merched mewn tech / cyfryngau digidol, yna plis rhowch anogaeth iddyn nhw ddod yn arbennig. Gallwn ni wastad wneud mwy i wella’r cydbwysedd hynny.
Syniadau
Mae Hacio’r Iaith yn gynhadledd sy’n cael ei arwain ganddoch CHI. Y pynciau a phrosiectau rydych chi eisiau eu trafod yw beth sy’n cael eu trafod.
Gallwch chi jyst rocio fyny ar y dydd a hawlio slot yn yr amserlen, ond mae’n help i bawb os gallwch chi benderfynu ar beth chi awydd ei drafod / gyflwyno o flaen llaw a’i roi ar y Google Doc trefnu. Gallwn ni wedyn drio osgoi unrhyw clashes.
O ran pa fath o beth? Dyma syniadau:
cyflwyno prosiect chi di gweithio arno (10 munud)
trafodaeth panel am bwnc (30mun – 60mun)
demo o brosiect – (5-15 mun)
gweithdy ymarferol (30mun – 60 mun)
Cofiwch y gall fod mor niche neu eang a chi eisiau. Mae cynulleidfa o 2 dal yn gynulleidfa werthfawr. Sdim rhaid sefyll o flaen podium. Gall fod ar soffa efo laptop. Gwnewch beth rydych chi’n gyfforddus â fo. Does dim rheolau haearn heblaw am rannu a derbyn mor hael a’u gilydd.
Cyflwyniad agoriadol / Keynote
Y llynedd benderfynon ni gael cyflwyniad keynote er mwyn dechrau’r diwrnod drwy osod her / gweledigaeth. Leighton Andrews wnaeth hynny bryd hynny a rydyn ni’n falch o ddweud y bydd yr Athro Andrew Green, cyn Lyfrgellydd Llyfrgell Gen Cymru, a dyn sy’n frwd dros ddigidol ac arloesi yn y maes yn rhoi keynote eleni.
Dwi’n siwr bydd ganddo ddigon o syniadau a heriau i brocio’r meddwl ar ddechrau dydd.
Cyri nos wener
Mae’n draddodiad ar nos Wener cyn Hacio’r Iaith i fynd am gyri. Dydyn ni heb benderfynu lle eto, ond mae Vegetarian Food Studio yn weddol agos at y lleoliad ac yn ôsym felly os nad oes cynnig gwell…
Rhowch eich enw ar y ddogfen Google (reit ar y diwedd bron) i ni gael gwybod pwy sy’n dod a thrio cadw bwrdd digon o faint. Dewch â’ch alcohol eich hun!
Edrych mlaen i’ch gweld chi ar ddiwedd y mis!
Hwyl am y tro, a chofiwch gysylltu os oes ganddoch chi unrhyw gwestiwn ar ebost, Twitter ar #haciaith, neu FB ar y digwyddiad.
Rhodri, Carl, Rhys W, a gweddill criw cyfranwyr Haciaith sy’n rhy niferus i’w rhestru!
https://haciaith.cymru/
Richard Morse 7:02 PM ar 6 Ionawr 2018 Dolen Barhaol
Hi, mae hyn yn swnio’n ddiddorol iawn. Fi sy’n arwain y tîm sydd wedi creu, ac yn dal i gynnal y cwrs Cymraeg ar Duolingo. Fasai diddordeb gyda chi i ni gynnal sesiwn?
Carl Morris 8:57 PM ar 6 Ionawr 2018 Dolen Barhaol
Yn bendant Richard! Rhowch y syniad ar y ddogfen pls.
Richard Morse 3:10 PM ar 9 Ionawr 2018 Dolen Barhaol
wedi ei wneud