DIWEDDARIAD 2/5/2012: mae Gareth Stwnsh wedi gadael sylw ac mae fe wrthi’n adfer y gwasanaeth. DIWEDDARIAD: mae’r wefan a’r dolenni yn ôl. Un o’r gwasanaethau byrhau URLs mwyaf poblogaidd ymhlith defnyddwyr Cymraeg yw http://stwnsh.com Rhywbryd wythnos yma aeth y gwasanaeth i lawr. Rydyn ni i gyd yn dibynnu ar yr URLs i ein gwefannau a… Parhau i ddarllen RIP Stwnsh? Dolenni’r we Gymraeg wedi torri am byth?
Awdur: Carl Morris
Hacio’r Iaith yn Llundain?
Neges gan Marc Webber: Os diddordeb gan Hacio’r Iaith am drefnu sesiwn yn Canolfan Cymry’n Llundain rhywbryd? Bydd e’n siawns i gwrdd a gics Gymraeg sy’n weithio yn Lundain ac, fallai, gwrdd a rhai o bobl sy isio gweithio i hybu’r iaith arlein? Beth wyt ti’n feddwl?
Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012 – cynllunio cynnar
Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012 Rydyn ni wedi bod yn trafod y posibilrwydd cyffrous o rywbeth Hacio’r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni. Nawr mae’r Eisteddfod wedi cynnig lle ac amser i Hacio’r Iaith, sef y pabell Cefnlen ar y maes bob dydd. Rydyn ni’n rhannu gyda’r beirdd o Dalwrn y Beirdd! Diolch i… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012 – cynllunio cynnar
Technoleg a diwylliant, beth sy’n gryfach?
Byddwn i’n dwlu ar gyfle i drafod y cwestiwn yma: Which is stronger: technology’s power to shape local culture, or local culture’s power to influence the way technology is adopted and used? If it’s the former, as I suspect it is, then technology becomes a homogenizing force, tending in time to erase cultural differences. If… Parhau i ddarllen Technoleg a diwylliant, beth sy’n gryfach?
Adeiladu platfformau sydd yn hybu creadigrwydd gan @davidgauntlett
Dyma cofnod blog diddorol gan David Gauntlett gydag wyth egwyddor bwysig os wyt ti eisiau adeiladu/defnyddio platfform ar-lein i sbarduno creadigrwydd. http://www.digitaltransformations.org.uk/building-platforms-for-creativity-eight-principles/ Daeth David Gauntlett i ambell i gyfarfod Fforwm Cyfryngau Newydd gyda ni llynedd. Mae fe’n awdur y llyfr Making Is Connecting.
Byig-wlb anfarwol! Archif gwefan Bwrdd (a Chomisiynydd ar-lein)
Mae’n braf i weld bod rhyw fath o drefn i’r broses machlud-heulo hen wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Roedd y wefan yn cofnod o hanes trwy’r datganiadau ac ati a roedd ambell i adnodd defnyddiol ar wefan Bwrdd yr Iaith fel adroddiadau/canllawiau fel gwaith Daniel Cunliffe iddyn nhw er enghraifft. Ar hyn o bryd mae’r… Parhau i ddarllen Byig-wlb anfarwol! Archif gwefan Bwrdd (a Chomisiynydd ar-lein)
Cwestiynu app symudol Cyngor Wrecsam
http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/2012/04/02/wrexham-s-looking-local-app-fails-to-set-internet-on-fire-55578-30671980/ COUNCIL bosses are urging the public to overcome their app-athy and use smart phones and iPads to report problems. The authority’s Looking Local app was trumpeted by Wrexham Council last year as a great way to report a range of social issues via the web. But although there have been a few reports trickling… Parhau i ddarllen Cwestiynu app symudol Cyngor Wrecsam
Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad
Ym mis Medi 2011, comisiynodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, adolygiad o ddulliau addysgu digidol yn yr ystafell ddosbarth, gan greu grŵp gorchwyl a gorffen allanol i’w arwain. […] Adroddiad: Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol (PDF) a datganiad heddiw Efallai bydd lot o’r argymelliadau o ddiddordeb i bobol… Parhau i ddarllen Dysgu yn y Gymru ddigidol – adroddiad
Cwestiynau am ddarpariaeth e-lyfrau Gwales
Mae gwales.com – gwefan lyfrau’r Cyngor Llyfrau – wedi cyhoeddi ei bod bellach yn gwerthu e-lyfrau yn ogystal â llyfrau print. […] Wrth groesawu’r datblygiad hwn dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £36,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i hwyluso gwerthu… Parhau i ddarllen Cwestiynau am ddarpariaeth e-lyfrau Gwales
Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith
Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti… Parhau i ddarllen Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith