RIP Stwnsh? Dolenni’r we Gymraeg wedi torri am byth?

DIWEDDARIAD 2/5/2012: mae Gareth Stwnsh wedi gadael sylw ac mae fe wrthi’n adfer y gwasanaeth.

DIWEDDARIAD: mae’r wefan a’r dolenni yn ôl.

Un o’r gwasanaethau byrhau URLs mwyaf poblogaidd ymhlith defnyddwyr Cymraeg yw http://stwnsh.com

Rhywbryd wythnos yma aeth y gwasanaeth i lawr. Rydyn ni i gyd yn dibynnu ar yr URLs i ein gwefannau a thudalennau. Mae miloedd o ddolenni yn methu bellach. Bydd unrhyw colled stwnsh.com yn anaf i’r we Gymraeg.

Er bod i erioed wedi creu dolen byr gyda’r gwasanaeth ym mhersonol dw i’n eu clicio nhw bob dydd.

Beth yw’r newyddion yma? Dw i wedi e-bostio’r perchennog.

Yn y cyfamser efallai mae’n well i ddefnyddio rhywbeth fel http://bit.ly
Ond wedi dweud hynny dw i ddim yn ffafrio’r arfer o fyrhau URLs o gwbl. Mae’r angen byrhau URLs yn un o’r gwendidau y we yn 2012 achos mae pob un yn creu pwynt o fethiant yn y we. Mae bai ar Twitter yn wreiddiol! Os ydyn nhw yn gallu ategu lluniau i drydariadau pam dydyn nhw yn ategu dolenni llawn hefyd?

9 sylw

  1. Mae stwnsh.com yn cael ei sgwoto erbyn hyn, felly prin iawn fydd y dolenni yna yn dod yn ôl.

    Dw i’n defnyddio tinyurl ar gyfer pethau mewn cylchlythyr ebost dw i’n wneud, yn bennaf ar gyfer dolenni Googlemaps, gan mod i’n gallu cofio nhw – tinyurl.com/pentre-arms yw’r dafarn leol, er enghraifft. Ro’n i’n arfer defnyddio stwnsh am yr un peth, nes i mi sylweddoli bod stwnsh.com wedi dechrau lapio tudalennau targed mewn ffram.

  2. Dydd Gwener daeth y berchnogaeth i ben, yn ôl WHOIS.

    Dw i ddim yn licio’r fframiau ar draws y we chwaith. Pan oedd Twitter yn trio nhw roedd pobol yn defnyddio’r term dickbar.

  3. Mae gan Gareth y gallu i adnewyddu’r parth yn ystod y mis nesa, ond wedyn mi allai’r pris godi neu fe allai fynd ar ocsiwn (dwi ddim yn siwr beth yw polisiau penodol Enom).

    Dwi ddim yn credu fod llawer o werth masnachol i’r wefan (yn wir, mae’r ffaith nad yw wedi ei adnewyddu yn brawf o hyn efallai). Ond mae yna werth o gael y dolenni i weithio o hyd, beth bynnag.

    Fasen i ddim yn ei golli os yw’n diflannu ond yn amlwg mae yna lawer o bobl wedi bod yn ei ddefnyddio. Os nad ydi Gareth eisiau ei gadw, fe ddylai ei drosglwyddo i rywun arall (wrth gwrs, all e ddim trosglwyddo rheolaeth a pherchnogaeth nes iddo dalu’r ffi adnewyddu).

  4. Pwyntiau da.

    Mae bywyd potensial fel archif o ddolenni, does dim rhaid prosesi ddolenni newydd.

  5. Dwi wedi bod heb y wê ers dydd Iau, felly rwan dwi’n gweld hyn. Mi fyddai’n ei sortio heddiw.

  6. Diolch am ddod a hyn i fy sylw. Am ryw reswm ni chefias ebost gan y cwmni i adael mi wybod bod yr enw parth wedi dod i ben. Roedd y cwmni wedi canslo yr enw hefyd!

    Ddylsiau bopeth fod yn ôl yn fuan iawn.

  7. @nicdafis Nid yw stwnsh.com bellach yn lapio tudalennau mewn ffram. Nid yw’r wefan wedi gwneud hyn ers peth amser.

Mae'r sylwadau wedi cau.