Tagiwyd fel: Bwrdd yr Iaith Gymraeg Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 1:06 AM ar 3 April 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , Bwrdd yr Iaith Gymraeg   

    Byig-wlb anfarwol! Archif gwefan Bwrdd (a Chomisiynydd ar-lein) 

    Mae’n braf i weld bod rhyw fath o drefn i’r broses machlud-heulo hen wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
    Roedd y wefan yn cofnod o hanes trwy’r datganiadau ac ati a roedd ambell i adnodd defnyddiol ar wefan Bwrdd yr Iaith fel adroddiadau/canllawiau fel gwaith Daniel Cunliffe iddyn nhw er enghraifft.

    Ar hyn o bryd mae’r cyfeiriad http://www.byig-wlb.org.uk yn neidio i http://www.webarchive.org.uk/ukwa/target/100770/source/search
    Mewn gwirionedd mae pob URL byig-wlb.org.uk yn neidio i’r un tudalen felly mae pob dolen dwfn wedi torri, sef miloedd o ddolenni o gwmpas y we. Hmm. e.e. Mae 592 ar Wikipedia/Wicipedia.

    Tu hwnt i’r cyfeiriadau dw i ddim yn siŵr pa mor gynhwysfawr ydy’r archif eto. Mae’r llinyn ‘translate to Welsh’ ar rhyngwyneb UK Web Archive yn od…

    Comisiynydd Iaith

    Gyda llaw dyma lle rwyt ti’n gallu ffeindio’r comisiynydd iaith newydd:

    https://twitter.com/ComyGymraeg

    http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/Pages/Hafan.aspx

    Technoleg Cymraeg ar comisiynyddygymraeg.org – enw eang am dudalen fach…

     
    • Jeremy Evas 3:30 PM ar 1 Mehefin 2012 Dolen Barhaol

      Hi Carl,
      Oedd angen ychydig o waith paratoi technegol cyn i ni fedru ddargyfeirio pawb yn awtomatig i’r dudalen ddiweddaraf ar yr archif. Dylai popeth fod yn gweithio o heddiw ymlaen (1/6/12).
      Jeremy.

  • Carl Morris 5:33 PM ar 19 December 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ,   

    .@ybwrdd yn gofyn am dermau Twitter #termau 

    Cynigion y Bwrdd ar dermau Cymraeg i Twitter http://t.co/Di5NqOng. Am awgrymu termau eraill? Cysylltwch drwy ddefnyddio #termau.
    @YBwrdd
    BwrddyrIaithGymraeg

    http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/20111219+D+DG+Termau+Twitter.pdf

    http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120306093556/http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/20111219%20D%20DG%20Termau%20Twitter.pdf

    Fy sylwadau brys i ar awgrymiadau Y Bwrdd:

    • Termau:

    list == rhestr
    mention – beth sy’n bod gyda sôn?
    beth yw API?
    microblog == meicroflog?

    • Cwestiwn. Ydyn ni’n ffafrio Twitter ar draul cystadleuaeth/gwasanaethau eraill? Mae rhaid ystyried y categori, nid un cwmni ar ei ben ei hun. Mae’r Bwrdd yn safoni termau mewn categorïau yn hytrach na chynnyrch – fel yr achos prosesyddion geiriau yn hytrach na Microsoft Word. Wrth gwrs does neb yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y maes meicroflogio yn 2012. Siŵr bydd mwy o arloesi a defnydd yn y categori tu hwnt i gwmni Twitter. Er enghraifft mae http://identi.ca/ (sy’n seiliedig ar http://status.net/ , system dan GPL Affero) a Yammer yn bodoli yn yr un categori.
     
    • Rhodri ap Dyfrig 12:28 AM ar 20 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol

      Ydi hwn ar gyfer darlledwyr yn bennaf? Gwybod bod dipyn o anghysondeb terminoleg wedi bod yno yn y misoiedd diwethaf.

      Dwi wedi bod yn defnyddio ‘trydariad/trydariadau’ am ‘tweet’ er mwyn gwahaniaethu berf ac enw. Dyma enghreifftiau eraill: http://cy.umap.eu/trydariad/

      Pam bod TweetDeck yna?

      “native retweet” == “ail-drydar brodorol” ?

      Ddim yn hoffi mensh rhyw lawer chwaith. Heb ei weld yn cael ei ddefnyddio ar Twitter.

      Ond pam bod dim cyfieithiad i hash tag? Dwi wedi setlo am “tag hash” fel y cyfieithiad lleiaf trwsgwl, a mwyaf dealladwy, ond efallai bod gair Cymraeg gwell am “tag”.

      Dwi di bod yn defnyddio “pynciau llosg” ar gyfer “trending topics/trends” ar Umap ers mis Ionawr a di gweld sawl un yn cyfeirio atyn nhw fel hynny. http://cy.umap.eu/llosg/

      Ond mae dy bwynt sylfaenol am roi sgôp llawer ehangach i hyn yn bwysig. Ella ffordd mwy crowdsoruced o wneud y job yma? Da ni’n trafod termau’r we wedi’r cyfan!

    • Elin Haf Gruffydd Jones 9:32 AM ar 20 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol

      Sylwadau brysiog (ychwanegol) gen i:
      Mae angen ‘favourite ‘fel berf hefyd – ffefrynnu?
      Dw i ddim yn licio’r ‘mensh’ chwaith…efallai sôn… pam lai tan fod yna awgrym gwell?
      O ran ‘trydar’, dwi’n falch fod BYIG ddim wedi awgrymu Trydar fel cyfieithiad o Twitter – un fuddugoliaeth yn fan yna @carlmorris!
      Ond dwi YN licio trydar fel tweet ac fel tweetio. (Felly’n anghytuno efo @nwdls). Mae adar yn trydar (berf) ac rydan ni’n clywed trydar (enw) yr adar. Felly dim problem yn y Gymraeg wrth drafod adar fod enw a berf yr un peth, felly pam fod angen gwahaniaethu efo pobl a’u trydar / pobl yn trydar?

      Rydan ni hefyd yn ôlffeminyddol (neu gynffeminyddol!) wrth i ni fod yn drydarwyr/trydawr hefyd 😉

      Un cam arall ar daith ydy hyn wrth gwrs…

    • Rhodri ap Dyfrig 11:02 AM ar 20 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol

      O ran fy sylw am dorfoli, ro’n i’n meddwl amdano fel ffordd dda o ddod o hyd i’r holl ddefnydd a permutations o air yn hytrach na gwneud penderfyniad ar gyfer termiadur. Mae angen i rywun wneud penderfyniad ar y derminoleg ‘swyddogol’ yn y pen draw, sydd ddim yn golygu bod angen i bawb ei ddefnyddio wrth gwrs!

    • Dylan Foster Evans 4:28 PM ar 23 Rhagfyr 2011 Dolen Barhaol

      Mae sawl problem gyda ‘mensh’ am ‘mention’. Beth fyddai’r lluosog – ‘menshys’? Swnio’n od. Hefyd, beth am y ferf ‘to mention’ – ‘menshio’? Byddai hynny’n rhoi pethau fel ‘fe fenshiodd hi fi ddoe’, sy’n lletchwith iawn, i mi o leiaf. Fel arall rhaid cael ymadrodd yn lle un gair, e.e. ‘cael mensh(ys) gan …’, ‘rhoi mensh(ys) i …’

      Mae ‘sôn’ yn well, ond eto mae problemau gan nad oes ffurf luosog fel y cyfryw. Ac nid yw’n enw rhif, hynny yw, does dim modd dweud ‘tri sôn’, mewn gwirionedd. Hefyd, mae’r ffaith fod angen yr arddodiad ‘am’ gyda ‘sôn’ yn creu rhai trafferthion. Does dim modd dweud ‘fe ges i (fy) sôn ddoe’, er enghraifft. Rhaid dweud ‘soniwyd amdana’ i ddoe’, neu ‘roedd sôn amdana’ i ddoe’ etc.

      Mae’r gair ‘crybwyll’ yn gweithio’n well. Mae’n gyffredin fel berf, ond gall fod yn enw (lluosog: ‘crybwyllion’). Felly mae modd dweud: ‘fe ges i fy nghrybwyll ddoe’, ‘dau grybwyll’, ‘llawer o grybwyllion’ , ‘fe grybwyllodd hi fi’, etc. Mae’n air digon cyffredin gan flogwyr, o be wela’i.

  • Carl Morris 4:20 PM ar 8 June 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Deddf Iaith, ,   

    SWYDD: Comisiynydd yr Iaith Gymraeg 

    Stori BBC:

    Nod y llywodraeth yw penodi Comisiynydd Iaith yn yr hydref.

    Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pasio’r mesur iaith yn y Cynulliad fis Rhagfyr diwethaf.

    Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog Addysg sydd â gofal dros yr iaith, Leighton Andrews, ei fod yn bwriadu hysbysebu am y swydd fis Gorffennaf gyda’r gobaith o benodi yn yr hydref.

    Datganiad ysgrifenedig gan Llywodraeth Cymru

    Teitl: Comisiynydd y Gymraeg
    Dyddiad: 08 Mehefin 2011
    Gan: Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

    Hoffwn hysbysu Aelodau o’r datblygiadau diweddaraf parthed penodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”).

    Ar 1 Mehefin, gosodais gerbron y Cynulliad Reoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 sy’n gosod allan manylion y broses ar gyfer penodi’r Comisiynydd. Mae copïau dwyieithog o’r rheoliadau a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ynghlwm wrth y datganiad hwn.

    Mae’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth y panel dethol a fydd yn gyfrifol am gyfweld ymgeiswyr a gwneud argymhellion i Brif Weinidog Cymru ynghylch y penodiad.

    Pan fu’r Cynulliad yn craffu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”), mynegwyd dymuniad gan Aelodau’r Cynulliad i fod yn rhan o’r broses benodi. Yn unol â hynny, mae’r rheoliadau yn darparu bydd y panel dethol yn cynnwys: Aelod Cynulliad a enwebir gan un o bwyllgorau’r Cynulliad; aelod o staff Llywodraeth Cymru; asesydd annibynnol a pherson sydd â phrofiad o hybu defnydd o’r Gymraeg a/neu iaith arall.

    Bydd y broses benodi yn seiliedig ar egwyddorion sydd wedi’u sefydlu dros amser, sef tryloywder a didueddrwydd, gyda phenodiad ar sail teilyngdod. Mae’r rheoliadau yn gosod dyletswydd ar Brif Weinidog Cymru, wrth benodi’r Comisiynydd, i ddilyn egwyddorion cyfrifoldeb Gweinidogion; teilyngdod; craffu annibynnol; cyfle cyfartal; uniondeb; didwylledd a thryloywder; a chymesuredd gan gymryd i ystyriaeth y disgrifiad o’r egwyddorion hynny yng Nghod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.

    O ystyried y cyd-destun ar gyfer gwaith y Comisiynydd a’r achos y bydd yn eiriolwr drosto, mae’n bwysig bod gan y Comisiynydd y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen i gyflawni ei ddyletswyddau yn effeithiol. O dan y rheoliadau hyn rhaid bod Prif Weinidog Cymru wedi ei fodloni bod gan y person wybodaeth ddigonol o’r Gymraeg a hyfedredd digonol ynddi i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd. I’r perwyl hwn mae’r rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r panel dethol asesu gwybodaeth pob ymgeisydd o’r Gymraeg a’i hyfedredd ynddi, a chynnwys yr asesiad yn ei argymhellion i Brif Weinidog Cymru. Bydd yr asesiad hwn o gymorth i roi’r sicrwydd y mae gofyn i Brif Weinidog Cymru ei chael er mwyn iddo deimlo’n fodlon bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arfer ei swyddogaethau’n effeithiol.

    Gallaf gyhoeddi ein bod yn anelu i hysbysebu swydd y Comisiynydd ym mis Gorffennaf gyda’r bwriad o wneud cyhoeddiad parthed yr ymgeisydd llwyddiannus yn yr hydref. Rwy’n awyddus i benodi’r Comisiynydd cyn gynted â phosib fel ei fod yn cael cyfrannu at y gwaith pwysig sydd i’w wneud – gan gynnwys yr angen i sicrhau ein bod yn symud yn gyflym o’r drefn bresennol o gynlluniau iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i’r drefn newydd o safonau iaith a gyflwynir o dan y Mesur. Bydd penodiad cynnar hefyd yn caniatáu i’r Comisiynydd gael mewnbwn i’r broses o sefydlu ei swyddfa – mater sydd eisoes yn destun paratoadau yn sgil trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

    Bydd cyfle i drafod y reoliadau hyn yn y Cyfarfod Llawn, sydd wedi’i amserlennu ar gyfer 28 Mehefin. Yn y cyfamser, edrychaf ymlaen at gydweithio gydag Aelodau’r Cynulliad i benodi Comisiynydd yr Iaith Gymraeg cyn gynted â phosib ac i gefnogi’r Comisiynydd wrth iddo fynd i’r afael â’r rôl allweddol hon o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu, sydd ynddo’i hun yn amcan pwysig gan Lywodraeth Cymru.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 2:26 PM ar 30 January 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: Bwrdd yr Iaith Gymraeg, , Google Earth, , , ysgolion meithrin,   

    Sesiwn Hywel Jones – Mapio’r Iaith ac Ysgolion 

    Blogio byw…wel, nodiadau byw

    • Gallu trososod map niferoedd siaradwyr Cymraeg (2001) wedyn dangos lle mae’r ysgolion, a chael eu manylion cyswllt wrth glicio ar y pin.
    • Dangos y maps rwan: edrych yn dda iawn. Wir werth ei weld.
    • Oes unrhyw raglennwyrr/dylunwyr allai wneud nhw’n fwy deniadol/defnyddiadwy eto?
    • Un broblem yw bod y ddata yn statig. Dim diweddaru byw.
    • Wedi eu rhoi mwn fformat KMZ(Google Eareth)  ar dudalen cyhoeddiadau BYIG
    • Wedi gorfod GeoCodio gwybodaeth am gylchoedd meithrin gan ddefnyddio http://batchgeocode.com a MapInfo Envisa. Problemau gyda chyfeiriadua Cym/Saes cymysg.
    • Camau: 1. dod o hyd i ddata: http://data.gov.uk; 2. Ail fformadu a mewnforio gan ddenfyddio MapInfo a GIS; 3. Allbynnu efo Google Earth
    • Pam defnyddio Google felly? Maps – pobol yn gyfarwydd a nhw; ddim yn dda os oes llawer o wrthrychau. Earth – da gyda llawer o wrthrychau, troshaenau tryloyw. Ond llai o bobol yn gyfarwydd a fo a gorfod lawrlwytho
    • Cyflwyno data o ddiddordeb i Hywel, sydd yn ystadegydd.
    • Cynulliad wedi creu categoriau llynedd. Hyn yn gyhoeddus, Cynyddu gwyb. i rieni wneud eu dewis.
    • doedd dim ‘ysgolion penodedig Gymraeg’: llawer o amrywiaeth
    • Oes  angen rhywbeth tebyg am ysgolion Cymraeg
    • Dangos stwnsh Lancashire school finder ar data.gov.uk
    • Diffyg cynnwys yn y Gymraeg
     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel