Dw i’n pasio neges Inventorium ymlaen. Beth sy’n digwydd i’ch eiliadau eureka? Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch syniad gwych ar ôl ei sgrifennu ar napcyn? Mae sesiwn Meic Agored Inventorium yn gyfle i chi rannu’r syniadau gorau rydych wedi’u hysgrifennu ar napcyn, ar fat cwrw, ac ar gefn eich llaw. Mae croeso i unrhyw… Parhau i ddarllen Meic Agored Inventorium – trafod syniadau tech ym Mangor, Ebrill 2012
Awdur: Carl Morris
Sawl llun, i’r Cwîn
http://www.theregister.co.uk/2012/03/14/face_britain_copyright_grab/ Mae prosiect o’r enw Face Britain yn ecsploetio lluniau gan blant – ac wedi cymryd pob hawl eiddo deallusol. Anhygoel. Maen nhw wedi casglu 70,000 llun gwahanol hyd yn hyn. Y bwriad ydy llun mosaig enfawr o Elizabeth Windsor… Darllena’r erthygl.
Replicant: adeiladu fersiwn o Android sydd yn hollol rydd
Dyma cyfweliad diddorol iawn am brosiect Replicant ar gyfer ffonau/tabledi gan gynnwys sgwrs am breifatrwydd/rheolaeth go iawn. http://www.techworld.com.au/article/417902/replicant_developer_interview_building_truly_free_android/? Maen nhw yn chwilio am bobol i gyfrannu. Mae modd cyfrannu ein cyfieithiadau Cymraeg o graidd Android i Replicant hefyd. Gyda llaw mae cyfle busnes yma i rywun sydd yn gallu gosod Android Cymraeg neu Replicant Cymraeg… Parhau i ddarllen Replicant: adeiladu fersiwn o Android sydd yn hollol rydd
RIP BBC Cylchgrawn
Mae prinder o stwff diwylliannol ar y we Gymraeg fel y mae. Roedd BBC Cylchgrawn yn adran o ansawdd gydag amrywiaeth o stwff. Nawr mae BBC newydd lladd yr adran. Mae cyfrannwr yn dweud: Ers cyhoeddi’r lluniau llawen uchod, derbyniais air gan fy ngolygydd ar wefan BBC Cylchgrawn, Glyn Evans, yn diolch am fy nghyfraniad… Parhau i ddarllen RIP BBC Cylchgrawn
Sialens Geovation: diwrnod creu syniadau gydag Inventorium
Mae gwerth £115, 000 o wobrau ar gael am syniadau da ynghylch ‘Sut gallwn ni drawsnewid cymdogaethau ym Mhrydain gyda’n gilydd?’ a hyd yn oed fwy o wobrau am syniadau i gefnogi ymwelwyr a chymunedau ar hyd y llwybr newydd, ‘Llwybr Arfordir Cymru’. Mae’r gwobrau hyn yn rhan o Sialensiau GeoVation yr Arolwg Ordnans. Ar… Parhau i ddarllen Sialens Geovation: diwrnod creu syniadau gydag Inventorium
Mapiau dwyieithog ar WordPress gyda math cofnod addasu
Simon Dickson yn sôn am greu map gyda lleoliadau dwyieithog ar Google Maps/WordPress (ar gyfer digwyddiadau y Comisiwn Silk ledled Cymru).
Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth
Mae’r Llywodraeth DU wedi agor ei phlatfform newydd fel prawf beta: https://www.gov.uk/ (Newyddion ar BBC News heddiw) Hmmm. Llynedd gwnes i ofyn am ddarpariaeth Gymraeg ac yn ôl y sôn maen nhw yn siarad â Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, o ran digidol mae’r prosiect yma yn cynnig cyfle gwych… Parhau i ddarllen Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth
Syniad i gyhoeddwyr – darparu e-lyfr gyda llyfr papur
Mae’r strategaeth yma gan Nicholas Carr yn wych: […] There’s a lesson here, I think, for book publishers. Readers today are forced to choose between buying a physical book or an ebook, but a lot of them would really like to have both on hand – so they’d be able, for instance, to curl up… Parhau i ddarllen Syniad i gyhoeddwyr – darparu e-lyfr gyda llyfr papur
Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – bydd yn aelod o’r blog
Neges i bobol wnaeth dod i Hacio’r Iaith 2012 ddoe (ac alumni!)… Os wyt ti wedi dod i unrhyw Hacio’r Iaith mae croeso i ti cael cyfrif dy hun ar haciaith.cymru. Gadawa sylw dan y cofnod blog hwn i wneud cais am gyfrif. (Er dyw’r system ddim yn cyhoeddi dy gyfeiriad ebost dw i’n gallu… Parhau i ddarllen Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – bydd yn aelod o’r blog
Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – gwerthusiad
Diolch i bawb wnaeth dod i gymryd rhan yn y drydedd Hacio’r Iaith yn Aberystwyth ddoe! Diolch hefyd i’r noddwyr am sicrhau mynediad am ddim a bwyd eleni. Mae mwy o gofnodion i ddod am y digwyddiad gan gynnwys nodiadau, fideos ac ati. Yn y cyfamser, ar diwedd y dydd cawson ni sesiwn i drafod… Parhau i ddarllen Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – gwerthusiad