WordPress 3.6 RC1

Mae WordPress RC1 ar gael nawr ar wefan cy.wordpress.org gyfer ei brofi. Y disgwyl yw y bydd y fersiwn terfynol ar gael ymhen rhyw bythefnos. Mwynhewch 🙂 Gwybodaeth bellach gan WordPress Sylwadau ar yr addasiad Cymraeg i post@meddal.com, os gwelwch chi’n dda.

Heriau i Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol

Mae Gwyn Llewelyn Williams wedi ysgrifennu darn am heriau i Microsoft Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol. Diolch yn fawr iawn i Gwyn. Ers blynyddoedd bellach mae Microsoft wedi bod yn darparu pecyn rhyngwyneb iaith Cymraeg ar gyfer eu system weithredu Windows – o Windows XP, i Vista, i 7 a rwan i… Parhau i ddarllen Heriau i Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol

Cyfieithu Disqus

Fel rhywun wnaeth gyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Disqus yn y gorffennol, ges i ebost ganddyn nhw heddiw’n dweud eu bod wedi newid gwefannau/widgets ac angen cyfieithu o’r newydd. Dwi’n gweld mwy o flychau sylwadau Facebook na rhai Disqus dyddia ma felly dwn i ddim faint o flaenoriaeth ydi hwn mewn gwirionedd. Ond dyma’r ddolen os oes… Parhau i ddarllen Cyfieithu Disqus

Gemau fideo Cymraeg – beth yw’r cefndir a beth fasen ni eisiau gael?

Dwi wedi bod yn pendroni am y pwnc yma neithiwr felly dyma ambell drydariad yn rhoi fy meddyliau lawr. Beth ydach chi’n feddwl am y pwnc? Ydi o’n hanfodol? Ydi o’n bosib? Be ma gwledydd eraill wedi llwyddo i’w wneud? Sut mae nhw wedi gwneud hynny a gyda pha fesur op lwyddiant? Ma’n faes sydd… Parhau i ddarllen Gemau fideo Cymraeg – beth yw’r cefndir a beth fasen ni eisiau gael?

Prosiect rhyngwyneb Reddit Cymraeg

Mae’r platfform sgwrs/rhannu dolenni Reddit newydd lansio prosiect cyfieithu’r rhyngwyneb i sawl iaith gwahanol gan gynnwys Cymraeg. Os wyt ti’n chwilfrydig am Reddit ac eisiau cael profiad cyntaf mae is-reddit o’r enw Cymru.

Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

Heddiw mae Twitter wedi anfon negeseuon preifat i ddefnyddwyr sydd wedi gwneud cais am ryngwyneb Cymraeg. Mae’r prosiect ar agor i bawb gyda chyfrif Twitter sydd yn fodlon gwirfoddoli. Mae Cymraeg ar y rhestr ymhlith lot o ieithoedd eraill. 1. Cer i http://translate.twttr.com ar dy gyfrifiadur os wyt ti eisiau cymryd rhan. (Dw i ddim… Parhau i ddarllen Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

Gmail yn y Gymraeg!

Newyddion mawr heddiw, mae’r Comisynydd Iaith (Meri Huws) wedi cyhoeddi bod Google yn mynd i gwneud fersiwn Cymraeg o’r gwefan e-bost poblogaidd “Gmail” ar gael yn y Gymraeg. Dywedodd Meri Huws: Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd – byddwn yn ei defnyddio yn yr ysgol neu yn y coleg, yn y… Parhau i ddarllen Gmail yn y Gymraeg!

Lleoleiddio Evernote i’r Gymraeg

Mae Evernote yn wasanaeth cwmwl ar gyfer cymryd nodiadau, lluniau a storio dogfennau rhwng yn sydyn rhwng dyfeisiau. Dwi’n ei ddefnyddio’n achlysurol os dwi isio cymryd nodyn sydyn pan dwi allan. Mae Evernote wedi agor eu rhyngwyneb i gael ei gyfieithu i wahanol ieithoedd ac fel dwi’n deall mae’n bosib ei leoleiddio i’r Gymraeg os… Parhau i ddarllen Lleoleiddio Evernote i’r Gymraeg