Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 3 (Ystafell 1)

Adnabod Lleferydd

Dewi (Uned Technoleg Iaith).

Cysylltu efo’r Wicipedia Cymraeg er mwyn cael ateb i gwestiynau. Dadansoddi cynnwys Wicipedia.

Paldaruo – ap/gwefan casglu lleisiau, angen mwy o leisiau. Hefyd, mae angen pobl i wrando ar recordiau a chadarnhau bod o’n gywir.

Coprws fersiwn 4 wedi cael ei ryddhau

Gwefan newydd ar sail CommonVoice gan Mozilla

Lleisiwr

Steffano (Uned Technoleg Iaith).

Creu lleisiau synthetig ar gyfer cleifion sydd am golli eu llais. (grant Cymraeg 2050). Galw mawr, pobl yn dod at yr Uned yn yr Eisteddfod yn holi am hyn.

Gweithio gyda therapyddion lleferydd.

Defnyddio’r hyn a ddysgwyd gyda Macsen. Gwefan gyntaf, wedyn falle apiau.

Lot o ‘voice banking’ yn digwydd yn Lloegr ddim yng Nghymru.

Robin Owain yn gofyn a oes modd creu y gallu i glywed erthygl Wicipedia’n cael ei darllen yn llais Saunders Lewis neu Kate Roberts!

Bylchau mewn technoleg Cymraeg

Jeremy Evas (Prifysgol Caerdydd/Llywodraeth Cymru) a Gareth Morlais (Llywodraeth Cymru)

Grwpiau’n nodi 3 blaenoriaeth o’r bylchau o restr ar y sgrin