Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 2 (Ystafell 1)

[Nid] Yw Hon ar Fap? Data a Mapio

Wyn, Carl ac Angharad yn trafod Mapio Cymru, map Cymraeg yn defnyddio Open Street Map.

Nod y prosiect, sut mae ychwanegu at y map ac ati (blog yma).

Nid yw enw lleoedd Cymraeg (lle mae enw Saesneg hefyd yn bodoli) yn ymddangos ar wefan Open Street Map. Mae’r enwau Cymraeg yn ymddangos ar www.openstreetmap.cymru.

Torfoli drwy annog grwpiau lleol i gyfrannu.

 

Newyddiaduraeth data gyda R a RStudio

Hywel Jones (Statiaith). Ysgogiad: darllen ymgynghoriad y Llywodraeth a oedd yn cynnwys bwriad i roi’r gorau i gyhoeddi data ysgolion ar lefel lleol, gan ei gwneud yn anodd cymharu / dilysu datganiadau.

Creu cod i grafu FyYsgolLeol gyda R nid Python.

 

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.