Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 1 (Ystafell 2)

Sesiwn 1 – Dysgu Cymraeg ar Duolingo

Richard Morse, tiwtor Cymraeg i Oedolion, yn adrodd hanes ‘ymgyrchu’ i ychwanegu cwrs Cymraeg ar y llwyfan.

Ceisio cefnogaeth, gan gynnwys llythyr at y Prif Weinidog.

Memrise (gwasanaeth tebyg) ond yn derbyn un cyfieithiad ar gyfer pob brawddeg – Duolingo’n derbyn mwy. Hyd at 50 gwahanol ffordd o lunio un brawddeg wrth ystyried pob tafodiaith!

CBAC wedi gadael iddynt ddefnyddio cynnwys y gwerslyfrau.

Angen ystyried ffurfiau Saesneg – gwahaniaeth rhwng DG ac UDA (yn UDA, ‘to clean’ = tacluso)

 

Leia, yn trafod 2 ap:

Amikumu, sy’n eich helpu i ddod o hyd i bobl gerllaw er mwyn siarad unrhyw un o 7500+ o ieithoedd y byd.

SaySomethingInWelsh – cwrs MP3. Mwy o hyder gan bobl sy’n dysgu drwy SSIW gan fod ganddynt eirfa ehangach ar gam cynharach.

1 sylw

  1. Piti nad oedd taflunydd ar gael i’r sesiwn, baswn i wedi dod â fy nhaflunydd fy hun taswn i wedi cael gwybod ymlaen llaw. Collodd y cyflwyniad llawer o’i effeitholrwydd oherwydd hyn. Ta waeth diolch am y cyfle i rannu peth o’r stori creu y cwrs Cymraeg ar Duolingo.

    Baswn i’n hapus i rannu’r sleidiau tasai diddordeb.

Mae'r sylwadau wedi cau.