Beth ddigwyddodd i’r cyfieithiad Disqus Cymraeg? Unrhyw ganlyniad? Ydyn ni’n gallu adfer a pharhau gyda’r gwaith? Pobol? http://hedyn.net/disqus Diolch!
Copio, hawlfraint a llyfrau am ddim gyda Cory Doctorow
http://www.guardian.co.uk/technology/blog/2010/oct/05/free-online-content-cory-doctorow Pwynt (gwych) arferol ond werth darllen os ti erioed wedi darllen Doctorow
Holi am y Drwydded Llywodraeth Agored yn y DU
http://quixoticquisling.com/2010/10/holi-am-y-drwydded-llywodraeth-agored-yn-y-du/
newid Yahoo Pipes i Python
defnyddiol Yahoo Pipes Code Generator (Python): Pipe2Py
Hacio’r Iaith 2
Mae hi’n teimlo fel amser maith ers cynhaliwyd y digwyddiad Hacio’r Iaith 1af rwan, felly mae’n amser dechrau bwrw iddi i drefnu’r ail un. Dwi’n credu bod yr ymateb wedi bod cystal i’r un gyntaf y bydd yr ail hyd yn oed yn well. O sgwrs ddechreuol gyda ambell berson y consensws ydi y dylen… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2
Google Refine
Soniais am Freebase Gridworks pan ysgrifennais am OpenTech 2010. Roedd sôn bryd hynny bod Google yn mynd i’w ail-enwi a nawr maen nhw wedi gwneud: mae Google Refine yw e nawr. Rwyf wedi bod yn ei ddefnyddio am y tro cyntaf yr wythnos hon ac, fel roeddwn wedi disgwyl, mae’n declyn defnyddiol iawn i rywun… Parhau i ddarllen Google Refine
blog Labs ar Casgliad y Werin
Mae blog gyda Chasgliad y Werin. http://labs.peoplescollection.co.uk Orffennwyd? Wel, maen nhw yn siarad amdano fe ar Twitter. Dyw’r rhyngwyneb y blog ddim ar gael yn yr ail iaith yn anffodus. (Ond mae gyda nhw “hub” ar Second Life.)
Trwydded gyhoeddus gyffredinol GNU (GPL yn Gymraeg)
Dw i newydd ffeindio GPL 2.0 yn Gymraeg(*) Felly dw i wedi ailgyhoeddi e. http://hedyn.net/trwydded_gyhoeddus_gyffredinol_gnu_gpl_yn_gymraeg Mae trwyddedau yn mor bwysig. Mae fe’n rhan o adran Hedyn newydd, Trwyddedau. Dros rhyddid. (*) ffeindiais i GPL Cymraeg yn yr ystorfa WordPress, diolch Iwan, pwy wnaeth e?
chwarae Asteroidau gydag unrhyw wefan
http://erkie.github.com/
Stori gwallgof: Cynghorydd Brighton, YouTube a democratiaeth
Mae cynghorydd wedi cael ei ymchwilio ar ôl iddo fe ail-postio fideo cyfarfod cyngor Brighton ar YouTube. Anhygoel!