Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn… Parhau i ddarllen Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)
Cwestiwn Iestyn Garlick am Facebook a Chymraeg ar-lein
Cer i 1:38:00 lle mae Garlick yn sôn am ‘broblem ieithyddol ar-lein’ gyda Facebook, YouTube sydd ‘ddim yn cyfeillgar iawn i ddefnydd o Gymraeg’. Mae fe’n siarad am 2-3 munud ond does dim ateb gyda fe. Felly beth yw’r ateb? O’n i eisiau codi mwy o gwestiynau i gyfrannu i’r ‘ateb’! … Oes problem ieithyddol… Parhau i ddarllen Cwestiwn Iestyn Garlick am Facebook a Chymraeg ar-lein
Dysgu’r iaith Quechua (ar Twitter)
http://rising.globalvoicesonline.org/blog/2011/11/01/languages-lets-tweet-in-quechua/ Licio’r ffaith bod y cyfrif yn unieithog https://twitter.com/hablemosquechua/ Does dim rhaid defnyddio Twitter chwaith, gallu bod ar blatfformau eraill
Stori Mair Russell Jones, Bletchley Park ac Enigma
[…] Am dros 70 mlynedd mae gwraig, mam a mam-gu wedi cadw cyfrinachau a heb egluro wrth ei theulu be yn union yr oedd hi’n ei wneud yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Mair Russell Jones yn fyfyrwraig ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd pan gafodd gyfweliad gyda’r Swyddfa Dramor. Cafodd y swydd ac am bedair… Parhau i ddarllen Stori Mair Russell Jones, Bletchley Park ac Enigma
SWYDD: cydlynydd sianel fideo arlein Gymraeg – “Sianel 62”
Cydlynydd Prosiect – Sianel 62 Fel prosiect i ddathlu 50 mlwyddiant y Gymdeithas, ac fel protest yn erbyn y diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes, byddwn yn darlledu’n wythnosol ar y we, o sianel y Gymdeithas, Sianel 62. Rydym yn chwilio am gydlynydd ar gyfer y prosiect hwn a fydd yn annog a hwyluso… Parhau i ddarllen SWYDD: cydlynydd sianel fideo arlein Gymraeg – “Sianel 62”
Hacio’r Iaith 2011 a 2012: edrych nôl ac edrych mlaen
Mae trefniadau wedi dechrau symud yn eitha cyflym rwan ar gyfer y digwyddiad Hacio’r Iaith 2012 sydd rwan yn ei drydedd flwyddyn. Mae na lwyth o sdwff wedi digwydd ers y cynta, a chyn i ni fynd bendramwnagl mewn i’r un nesa (os am hynny ewch i’r Wici), efallai ei bod hi’n werth taro cip… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2011 a 2012: edrych nôl ac edrych mlaen
Waa! Richard Stallman yn areithio yn Aberystwyth mis yma
Bydd Richard Stallman, tad y mudiad meddalwedd rydd, yn siarad am beryg patentau meddalwedd yn Aberystwyth. 31 mis Hydref 2011 4PM – 7PM Y Theatr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DE Mwy o wybodaeth: http://www.fsf.org/events/20111031-dsp-aberystwyth Llun gan pablojcoloma (CC)
Ymgyrch .cymru – diweddariad
http://www.clickonwales.org/2011/10/cymru-and-the-haka/
QRpedia (Codau QR + Wicipedia)
Danfonwyd ebost ymlaen ataf yn ddiweddar gan ŵr o’r enw John Cummings. Roedd yn ceisio cysylltu ag unigolion a sefydliadau (gan gynnwys rhai Cymraeg eu hiaith) a fyddai’n gallu ei helpu gyda phrosiect hoffai ei dechrau yn ymwenud a QRpedia sef cyfuniad o godau QR ac erthyglau Wicipedia. I’ve set up a project to use… Parhau i ddarllen QRpedia (Codau QR + Wicipedia)
Tabl cyfnodol yn Gymraeg
Newydd ffeindio: http://www.ptable.com/?lang=cy Mae’r tabl yn dilyn iaith dy borwr ac mae opsiwn iaith yn y cornel. Diolch i bwy bynnag sydd wedi addasu’r tabl i’r Gymraeg.