Tabl cyfnodol yn Gymraeg

Newydd ffeindio: http://www.ptable.com/?lang=cy Mae’r tabl yn dilyn iaith dy borwr ac mae opsiwn iaith yn y cornel. Diolch i bwy bynnag sydd wedi addasu’r tabl i’r Gymraeg.

RIP Dennis Ritchie, cyd-creawdwr yr iaith C a’r system gweithredu Unix

[…] In the late 1960s and early ’70s, working at Bell Labs, Mr. Ritchie made a pair of lasting contributions to computer science. He was the principal designer of the C programming language and co-developer of the Unix operating system, working closely with Ken Thompson, his longtime Bell Labs collaborator. The C programming language, a… Parhau i ddarllen RIP Dennis Ritchie, cyd-creawdwr yr iaith C a’r system gweithredu Unix

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , ,

Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys

Dwi’n credu bod diwrnod Ada Lovelace yn syniad gwych, a dwi di blogio am ddwy ddynes o Gymru sydd wedi bod yn ddylanwadol ym myd technoleg Cymru o’r blaen: Elen Rhys a Delyth Prys. Tro ma dwi’n mynd i sôn am Rhys arall; rhywun sydd yn ysbrydoliaeth ym myd gwyddoniaeth yn ogystal â thechnoleg. Mae… Parhau i ddarllen Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys

Haclediad #13 – Tân ac Afalau

Gyda Apple yn dod a’r iPhone 4S i’r byd ac Amazon yn cynnau’r Kindle Fire, mae’n frwydr y ffanbois yn rhifyn hwn yr Haclediad. Yn symud ‘mlaen o’r Kindle Fire, byddwn yn trafod sefyllfa siomedig e-lyfrau Cymru, awgrymiadau fforwm cyfryngau newydd S4C a’r newyddion gwych am Hacio’r Iaith 2012. Anghofion ni sôn am Facebook newydd,… Parhau i ddarllen Haclediad #13 – Tân ac Afalau

Diwrnod Ada Lovelace 2011 – yfory yng Nghymru

Bydd Ddiwrnod Ada Lovelace yfory (7fed mis Hydref 2001) yng Nghymru – diwrnod o flogio i ddathlu cyfraniadau benywod i dechnoleg. Mae nifer o bobol wedi cyfranogi yn Gymraeg yn 2009 a 2010. Efallai dylet ti ystyried sgwennu/recordio cofnod hefyd. (Enghraifft o gofnod am danah boyd ar fy mlog llynedd.) Mwy o fanylion ynglŷn â… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2011 – yfory yng Nghymru

Hacio’r Iaith cyntaf 2012 yn digwydd yn Aberystwyth ar y 28 Ionawr

Rydyn ni wedi penderfynu cadw at yr un lleoliad ar gyfer Hacio’r Iaith Ionawr 2012 felly sdiciwch o yn eich dyddiaduron! Y penderfyniad arall oedd y byddai mwy nag un Hacio’r Iaith yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol, ond rydyn ni angen help i drefnu rheiny. Os da chi isio trefnu diwrnod o drafod a chreu… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith cyntaf 2012 yn digwydd yn Aberystwyth ar y 28 Ionawr

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

Seminar (Caerdydd) ar ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru

Mae gwahoddiad yn cael ei ddanfon heddiw i fynychu ein seminar brynhawn rhad ac am ddim ar 19fed o Hydref, sy’n trafod ein darganfyddiadau ymchwil newydd ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol defnyddwyr yng Nghymru. Hwn yw’r diweddaraf o seminarau Beaufort sydd wedi ei arwain gan ymchwil gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar dueddiadau allweddol agweddau defnyddwyr yng… Parhau i ddarllen Seminar (Caerdydd) ar ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru

Defnyddio Foursquare i gael gwasanaeth Cymraeg

Dwi wedi biod yn trio meddwl am ddefnyddiau Cymraeg o Foursquare ac wedi cael syniad bach allai fod yn ddefnyddiol iawn os fasai digon o bobol yn gwneud rhywbeth tebyg i lefydd eraill. Mae’n bosib creu rhestrau o lefydd ar thema benodol yno (e.e. caffis gorau yn ol defnyddiwr x) ond dwi di dechrau rhestr… Parhau i ddarllen Defnyddio Foursquare i gael gwasanaeth Cymraeg