Stori Mair Russell Jones, Bletchley Park ac Enigma

[…] Am dros 70 mlynedd mae gwraig, mam a mam-gu wedi cadw cyfrinachau a heb egluro wrth ei theulu be yn union yr oedd hi’n ei wneud yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd Mair Russell Jones yn fyfyrwraig ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd pan gafodd gyfweliad gyda’r Swyddfa Dramor.

Cafodd y swydd ac am bedair blynedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n gweithio yn Bletchley Park.

Roedd yn helpu i ddadansoddi cudd-wybodaeth Yr Almaenwyr.

Dim ond yn ddiweddar y mae Mrs Jones, sydd erbyn hyn yn 94 oed, wedi dechrau siarad am ei phrofiadau.

Mae Bletchley Park yn cael ei gofio am y cyfrifiadur Colossus a adeiladwyd yn 1943 er mwyn dadansoddi côd Lorenz a oedd yn cael ei ddefnyddio gan y Natsïaid. […]

http://www.bbc.co.uk/newyddion/15535093

2 sylw

  1. Yn ddiweddar wnaeth BBC Cymru gynhyrchu raglen dogfen gwych yn Saesneg ar gyfer BBC Four ynghylch Bletchley Park. Piti na wnaethon nhw fersiwn Cymraeg a darganfod mwy o Gymry fel Mair oedd wedi gweithio ar y math hyn o waith yn ystod y rhyfel.

Mae'r sylwadau wedi cau.