Hacio’r Iaith 2011 a 2012: edrych nôl ac edrych mlaen

Mae trefniadau wedi dechrau symud yn eitha cyflym rwan ar gyfer y digwyddiad Hacio’r Iaith 2012 sydd rwan yn ei drydedd flwyddyn.

Mae na lwyth o sdwff wedi digwydd ers y cynta, a chyn i ni fynd bendramwnagl mewn i’r un nesa (os am hynny ewch i’r Wici), efallai ei bod hi’n werth taro cip nôl dros beth oedd uchafbwyntiau a gwendidau yr un diwethaf o’m safbwynt i.

Hacio’r Iaith 2011

Be wnaeth weithio?

  • Sesiynau ymarferol i ailgymysgu/ailddefnyddio deunydd arall. Gweler canlyniadau gwych sesiwn Gwilyn Deudraeth. Gawn ni un arall o’r rhain eleni plis? Llyfrgell Gen i roi deunydd?
  • awyrgylch hyfryd a hwyl unwaith eto. Ma hwn yn un o’r pethau gorau am y digwyddiad dwi’n meddwl. Ma’n gwbl wahanol i gynhadleddau arferol. Gobeithio bod y croeso yr un mor gynnes i wynebau newydd yn ogystal a rhai cyfarwydd.
  • defnydd y stiwdio fwy – dwi’n meddwl ei fod yn ofod braf ar gyfer sesiynau
  • ffotograffiaeth @Bryns – lluniau hyfryd wnaeth ddal awyrgylch y diwrnod – be am drio cael mwy o bobol i wneud tro ma!
  • hacio’r cyri – cyfle gwych i dorri’r rhew a dod i nabod ambell wyneb newydd.
  • Y wici (dyma un 2011) – er ei wendidau, dwi’n meddwl bod y wici wedi bod yn ffordd dda o drefnu’r digwyddiad ac i gofrestru.
  • cymysgedd sesiynau ymarferol / trafod / arddangos – dwi’n credu gawson ni’r cydbwysedd yn well yn 2011 na 2010, gyda sawl slot lle gallai pobol ffidlan a thrafod sdwff ymarferol yn ogystal a’r cyflwyniadau/sgyrsiau ayyb.

Be oedd yn iawn?

  • trefn y sesiynau – yn fy marn i roedd rhai slots yn rhy hir ar gyfer cyflwyniadau unigol, gan olygu bod na chydig bach gormod o redeg mlaen. Efallai bod angen cyfyngu hyd cyflwyniadau unigol i 15/20mun?
  • roedd y sesiwn gynta braidd yn hir, ac efallai bod trafod polisi digidol ddim y peth mwy cyffrous i gicstartio cynhadledd!
  • WiFi – chydig bach yn iffy ar adegau ond dwi ddim yn meddwl gallwn ni wneud llawer am hynny.
  • cyswllt gyda’r byd tu allan i’r gynhadledd – dwi’n meddwl bydda modd gwneud llawer gwell job o gael pobol sydd yn methu dod, neu yn byw mewn llefydd ar draws y byd i gymryd rhan. Efallai taw cael pobol penodol yn blogio ydi’r ateb. Ella taw cael backchannel brysurach gyda phwyntiau trafod ei hun ydi o. Ella taw cael yr haclediad yn fyw yn iawn ydi o. Fasa’n dda clywed unrhyw syniadau sut gellid gwella fo.
  • defnydd yr atriwm – falle bod modd gwneud gwell defnydd o’r cyntedd mawr. Cafwyd ambell sesiwn fach yno oedd yn hwyl.
  • y wici – er ei fod wedi gweithio i drefnu ar lefel weinyddol, dwi ddim yn siwr os wnaeth pobol gymryd ato fel ffordd o drafod pa sesiynau oedden nhw eisiau ei wneud. Falle bod angen meddwl mwy am sut rydyn ni’n annog pobol i feddwl o flaen llaw am beth mae nhw eisiau siarad amdano?
  • fideo – o’n i’n meddwl bod y cyfweliadau un munud wnaeth Sioned a Bryn yn 2010 yn wych. Dwi’n meddwl byddai’n dda cael rhyw fath o snippets fideo anffurfiol, fel hyn i roi syniad pellach i bobol am bwy oedd yno a beth oeddan nhw’n gwneud.

Be oedd yn fflop?

  • recordio sesiynau – am nad oedd y cymorth oedd wedi ei addo ar gyfer ffilmio wedi dod ar y diwrnod, roedd saethu fideo a recordio sain yn ormod o her i fi ar ben fy hun, a wnes i job braidd yn patchy ohono. Mae angen sortio fo’n iawn eleni.
  • ffrydio byw – eto, dim digon o hands on deck technegol ar gael, a gorfod defnyddio’r WiFi yn hytrach na ethnet. Yn sicr bydda i’n gneud yn siwr bod na cebl dedicated wedi ei brofi o flaen llaw ar gyfer y ffrydio.
  • rhannu – am yr un rhesymau dwi heb lwyddo i olygu na lanlwytho’r sesiynau wnes i recordio. Byddai’n llawer gwell gallu eu cael nhw arlein o fewn wythnos, ond i wneud hynny mae angen trefniant gwell a mwy o bobol i helpu.
Dwi’n siwr bod na bethau eraill i’w rhoi ar y rhestr hon, ond ro’n i isio jest cael rhai pwyntiau lawr er mwyn dechrau trafodaeth. Felly, plis trafodwch a rhowch eich sylwadau!

6 sylw

  1. Am fynd nol ati i’r fideos un funud – oedd llynedd yn rush braidd efo recordio’r haclediad a trio gweld gymaint o sesiynau â phosibl!

  2. Ma’n annodd cael y balans rhwng cymryd rhan, joio’r digwyddiad a sgwrsio dydi. Ma fatha bod dim digon o funudau yn y diwrnod i wneud y tri. Dwi’n benderfynol o gael y setup haclediad yn barod a wedi ei brofi y diwrnod cynt tro ma. Ella dylen ni drio ffeindio rhywun arall i wneud y fideos na fel bod ti’n rhydd i ganolbwyntio ar yr haclediad?

  3. Da

    Roedd cinio yn wych ac yn gyfle da i siarad gyda phobol tu fas i’r amserlen. Diolch am ei drefnu. Dw i’n ffan fawr o’r sesh cyri am resymau tebyg.

    Iawn

    Roedd y sesiwn ymarferol gyda cherddi Gwilym Deudraeth yn dda ond byddwn i’n wneud fformat gwahanol tro nesaf. Roedd pobol yn dibynnu ar eu sgiliau ac yn gadael ar ôl gwneud pethau. Ond hoffwn i ddysgu/addysgu mwy! e.e. sut i wneud fideo/awdio/lluniau da.

    Fflop

    Mae’r blog yma wedi bod yn well na fy nisgwyliadau ond bydd e’n neis i weld mwy o ‘gymuned’ ar ôl y digwyddiad, mwy o follow-up a chyd-weithio. (e.e. ers pryd ydyn ni wedi bod yn trafod Android yn Gymraeg??!! Hoffwn i gyfrannu ond dw i ddim yn biau ffôn Android – eto!)

    Hmm

    Dw i wedi bod yn meddwl am sut i annog pobol tu allan i’r ‘usual suspects’

    • i ddod
    • i gymryd rhan

    Hefyd dw i’n meddwl bod her fawr i ni fel Hacio’r Iaith ac i’r we Gymraeg yn gyffredinol, sef: sut i fod yn gyfartal yn gynnwys sut i fod yn agored i fenywod. Bydd y we Gymraeg yn lot gwell gyda mwy o fenywod yn fy marn i. Trafodwch. Rydyn ni wedi bod yn trio casglu data ar Y Rhestr ond dydyn nhw ddim yn gyflawn eto. Hoffwn i weld data am gyfranogiad o ran pethau eraill.

  4. Beth am i ni greu cyfrif ar haciaith.cymru i bawb sy’n dod a rhoi’r enw defnyddiwr / cyfrinair iddyn nhw wrth gyrraedd? Gofyn i bawb ddefnyddio’r blog fel sianel gefn ar gyfer trafodaeth yn lle Twitter? Dwi ddim yn ffan mawr o Twitter mewn cynhadleddau ar gyfer rhannu gwybodaeth tu hwnt i’r gynhadledd (mae’n wych ar gyfer cysylltu â phobol yn y gynhadledd) – rhy gryno. Dwisio blog neu fideo. Cyhoeddi URL i bob sesiwn?

    Cytuno am geisio lledaenu apêl Hacio’r Iaith. Dwi’n meddwl taw’r unig ffordd ydi i gysylltu â phobol penodol yn uniongyrchol, ac i bobol sydd eisoes yn dod i Hacio’r Iaith i ddweud wrth bobol ma nhw’n nabod. Hyn a hyn all Wici, gwefan a hyrwyddo Twitter wneud i wella’r sefyllfa yna.

  5. Gwych – y ‘polisi’ ydy, os ti’n dod ti’n gallu cael cyfrif ar haciaith.cymru dan dy enw. Mae pawb (neu y rhan fwyaf) o bobol sydd wedi dod yn 2010 a 2011 gyda chyfrifon eisoes felly.

    * Gofynna isod os ti eisiau help i logio mewn!

    Rydyn ni’n gallu bod yn hyblyg gyda URLs. Does dim ots os mae pobol yn blogio 5 gwaith yn ystod sesiwn. Neu blogio unwaith yn ystod sgwrs amser cinio.

    Gwendidau Twitter – cytuno, rhy disposable ac anodd i chwilio am stwff.

Mae'r sylwadau wedi cau.