QRpedia (Codau QR + Wicipedia)

Danfonwyd ebost ymlaen ataf yn ddiweddar gan ŵr o’r enw John Cummings. Roedd yn ceisio cysylltu ag unigolion a sefydliadau (gan gynnwys rhai Cymraeg eu hiaith) a fyddai’n gallu ei helpu gyda phrosiect hoffai ei dechrau yn ymwenud a QRpedia sef cyfuniad o godau QR ac erthyglau Wicipedia.

I’ve set up a project to use QRpedia codes in the town of Monmouth,c rowd sourcing the information by creating Wikipedia articles for each building, monument, event, etc. The QRpedia codes also detect the language of your smart phone to direct you to your preferred language, including Welsh.

Hoffai i’r prosiect weithio yn yr un modd a chynllun diweddar yn Amgueddfa Derby, sef The Derby Multilingual Challenge (ond mae hynna’n haeddu cofnod blog arall yn y dyfodol gobethio!). Ond mae’r fideo isod yn esbonio’r egwyddor, ac yn egluro ychydig am QRpedia:

Derby Museum using multilingual QR codes from Andrew James Sykes on Vimeo.

Fel y gwyddom, nid yw ffonau ‘clyfar’ (ha!) yn medru adnabod os mai Cymraeg yw dewis iaith ei berchenog. Eglura John;

I’m working with Roger Bamkin, a trustee of Wikipedia UK who has been very helpful and offered technical support, contacts, setting up a wikipedia editing tutorial day etc. He’s especially interested in it being in Welsh to work as a model for other projects with  multiple language communities and the fact that Welsh not a language currently supported by smartphone operating systems.

Credaf mae datrysiad tymor byr QRpedia yw rhoi’r dewis i chi o’r holl ieithoedd mae’r erthygl penodol yma ar gael ynddi.

Ta waeth am hyn, tra dan ni’n aros am ddatrysiad, falle hoffai rhywun wybod mwy am brosiect John Cummings, un mae wedi alw yn…..Monmouthpedia.  Mae’n amlwg yn ddyddiau cynnar ar hyn o bryd, ond dyma sydd ganddo mewn golwg:

  • Finding contributors
  • Decide on what the contributors would like to write articles about
  • Create Wikipedia article stubs
  • Creating a pool of references to use for referencing artciles
  • Take photos or find creative commons or license free photos
  • Find historical images to use
  • Learn how to edit Wikipedia
  • Work with the various bodies about having the qr codes placed around town
  • Advertising and promotion to get more people involved and bring more attention to it
  • Decide on who will be responsible for the signs and who will pay for and maintain them
  • Find people to translate the articles into Welsh and other languages

Os gallwch ei helpu, ewch amdani. Gallwch gysylltu a John, drwy ei dudalen sgwrs ar Wikipedia, neu mae gyda fi ei gyfeiriad ebost os oes rhywun eisiau cysylltu a fo’n uniongyrchol.

6 sylw

  1. @Gareth. Diddorol, ond welai i ddim mantais amlwg i hynny, gan bod rhywun ar lein yn barod ac uyn gallu clicio ar ddolen, neu mond arbrofi gyda’r dechnoleg wyt ti, fel bod modd trosglwyddo’r cod QG off-line (mewn pa bynnag fodd) er mwyn hyrwyddo unrhyw URL penodol?

    Eto ychydig dros fy mhen i, ond mae’r syniad yma o allu trydar yn syth o god QR yn edrych fel rhywbeth all ddod yn gyffredin.

    Jyst tu allan i’r swyddfa rwan, dw i wedi gweld fan cwmni trydanol gyda cod QR mawr ar ei chefn. Y cerbyd cyntaf i mi weld gyda un arno.

    O ran y Monmouthpedia, mae nhw wedi dod a geiriad mwy eglur i’r brosiect:

    MonmouthpediA is a project to create Wikipedia articles on interesting and notable places, people, artefacts, a flora and fauna guide etc in Monmouth and to display QR code using QRpedia where appropriate to deliver the articles to users, in their preferred language including Welsh. Articles will have geotagging to allow a virtual tour of the town using the Wikipedia layer on Google Streetview, Google Maps and will be available in augmented reality software including Layar. MonmouthpediA may not use standard black and white QR codes to differentiate between MonmouthpediA codes and other schemes and individual’s codes. MonmouthpediA will be the first project of it’s kind, using QRpedia codes outside across a whole town including museums.

    Mae cyfarfod cychwynol wedi ei drefnu ar gyfer nos Wener y 28ain yn Neuad y Sir, Trefynwy am 7:30.

  2. Wikipedia and QRpedia have been working with speakers of Catalan who want to protect and enthuse about their culture. It seems odd to me that the Welsh government require TV and signposts in Welsh but allow the phones to not allow their owners to use them in Welsh. “Wikimedia UK” would like to work with enthusiasts and supporters of the Welsh language. Monmouthpedia is one way that we can do this on line.

  3. It seems odd to me that the Welsh government require TV and signposts in Welsh but allow the phones to not allow their owners to use them in Welsh.

    Sadly, the Welsh Government doesn’t have the power (and some might say the will) that the Catalan government possesess…

  4. @Rhys Arbrofi gyda’r meddalwedd oeddwn i a dweud y gwir. Y gobaith gyda Stwnsh yw agor y system i alluogi bobl i weld ystadegau yn y dyfodol, felly mae’r gallu i greu QR codes er mwyn eu defnyddio ar gyfer eu prosiectau yn rhan o hyna.

    Mae QR codes ym mhobman yma yng Nghanada (neu fi sy’n sylwi arnhyn nhw yn fwy) ac yn cael eu galw yn MobiCodes (neu rhywbeth tebyg) ar rai rhagleni teledu. Tydi nhw ddim ar y sgrin yn ddigon hir i mi allu cael y ffôn i’w decodio nhw chwaith.

    Ffad yw o mwy na thebyg tan y doith y peth nesaf ymlaen.

Mae'r sylwadau wedi cau.