Rydyn ni wrthi’n drefnu Hacio’r Iaith 2013 yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ac mae’n fraint i ddweud bod modd cofrestru lle am ddim heddiw! Manylion Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013 9:30YB – 5:00YH (amser cau i’w gadarnhau) Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru Diolch i Illtud Daniel a phobl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle
Nofel Gymraeg yn cael ei sgwennu yn gyhoeddus ar Google Drive fel arbrawf
Mae’r awdur Chris Cope yn sgwennu nofel fach ac yn croesawu eich adborth ar y llawysgrif ar y we. Dyma’r dolen uniongyrchol i’r nofel fel ddogfen. Gallwch chi roi sylwadau. Diolch i ffaldiral am y dolen.
Haclediad #24: Yr un efo Elliw!
Mae’n ddrwg gennym am y tawelwch sydd wedi bod, ond mae rhai ohonom wedi bod i ffwrdd yn gwneud pethau pwysicach. Felly dyma ei’n Haclediad cyntaf heb Sioned. Roedd yn ormod o risg gadael Bryn a fi ar ben eu hunain i fwydro, felly rhowch croeso mawr cynnes i Elliw Gwawr — sy’n trio ei… Parhau i ddarllen Haclediad #24: Yr un efo Elliw!
Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron
Literatim (Android) Yn ein pabell yn Steddfod Gen eleni cyflwynodd David Chan ei brosiect newydd, bysellfwrdd darogan Cymraeg ar Android. Mae fe wedi bod yn gweithio’n galed ar y meddalwedd fel menter annibynnol llawrydd. Roedd ambell i berson yn y pabell mis Awst yn dweud bod nhw yn fodlon symud o ffonau eraill i Android… Parhau i ddarllen Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron
Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg
Dydd Mawrth 16eg mis Hydref 2012 yw Diwrnod Ada Lovelace: Diwrnod Ada Lovelace yw dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Cer i… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg
Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Seminar ymchwil yng Nghaerdydd)
Mae’r seminar yma yn edrych yn ddiddorol: 11 Rhagfyr 2012 Dr Jeremy Evas Y Gymraeg mewn oes ddigidol 5:15PM Ystafell 1.69 Adeilad y Dyniaethau, Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, CF10 3EU
Yn dallt Ruby, Python a PHP ac eisiau ‘ennill’ £75?
Yn ôl yn 2009 daeth sawl gwefan defnyddiol i ben wrth i’r Post Brenhinol fygwth camau cyfreithiol yn eu herbyn am ddefnyddio data codau post oni bai eu bod yn talu £4,000 y flwyddyn am y data. Un o’r gwefannau oedd PlanningAlerts.com a oedd yn tynnu gwybodaeth am geisiadau cynllunio o wefannau awdurdodau lleol a’i… Parhau i ddarllen Yn dallt Ruby, Python a PHP ac eisiau ‘ennill’ £75?
Trydar Cymraeg – Y Tair C: Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig
TRYDAR Cymraeg – tyfu a datblygu Mae Twitter yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg ac mae nifer cynyddol o unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus yn ei ddefnyddio. Ond un pryder yw fod y nifer sy’n dilyn Twitter Cymraeg ein sefydliadau – cynghorau lleol, cyrff cyhoeddus ac ati – yn is o lawer na nifer y… Parhau i ddarllen Trydar Cymraeg – Y Tair C: Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig
Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales
Cwrddais i rywun o Nominet ddoe – roedd e’n rhedeg stondin marchnata ar ran Nominet mewn cynhadledd yn Abertawe. Mae Nominet wedi dechrau ymgyrch marchnata cynnar er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd o enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales. Mae angen aros tan fis Mehefin 2013 am ateb oddi wrth ICANN ynglŷn â’r ceisiadau.… Parhau i ddarllen Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales
META-NET: astudiaethau o sefyllfa technoleg iaith 30 o ieithoedd Ewrop
Mae cyfres o adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi gan META-NET, yn edrych ar sefyllfa 30 o ieithoedd Ewrop o ran technoleg iaith. Mae Basgeg, Catalan a Gwyddeleg yn eu plith ond dydy’r Gymraeg ddim gwaetha’r modd. Dyma’r canlyniadau allweddol: http://www.meta-net.eu/whitepapers/key-results-and-cross-language-comparison Gellir llwytho copïau o’r adroddiadau unigol llawn o: http://www.meta-net.eu/whitepapers/index_html