Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Mae’r Grŵp Hawliau Agored ar daith i siarad am y peryg o golli preifatrwydd personol ar y rhyngrwyd. Bydd cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 28ain mis Tachwedd 2012. Mae’r grŵp wrthi’n ymgyrchu yn erbyn y Siarter Ysbiwyr, sef bil drafft gan y llywodraeth clymblaid yn San Steffan i orfodi darparwyr rhyngrwyd, platfformau rhwydwaith cymdeithasol a darparwyr eraill… Parhau i ddarllen Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Datblygiadau digidol y Maori

http://www.crownfibre.govt.nz/2012/11/te-reo-facebook-on-the-way/ Mae ganddyn nhw Maori Internet Society, mae ganddyn nhw gynhadledd genedlaethol yn canolbwyntio ar gyfleoedd y rhyngrwyd i S.N. o’r enw Nethui. Amser i ninnau gael trefn fwy swyddogol ar drafodaetha am y rhyngrwyd yn Gymraeg ac yng Nghymru, ac i gael cynhadledd genedlaethol sydd yn gwneud rhywbeth gwahanol i Hacio’r Iaith?

App Geiriadur Lluniau i blant

Dw i wedi derbyn ebost gyda’r datganiad i’r wasg canlynol. Gobeithio nad ydych yn meindio i mi ei ailgyhoeddi yn ei gyfanrwydd. Mae’r Welsh-English Picture Dictionary App – y cyntaf o’i fath ar gyfer plant – ar werth. Am y pris rhesymol o £1.99, cewch ap sy’n gweithio’n debyg i gêm ryngweithiol. Cliciwch isod am… Parhau i ddarllen App Geiriadur Lluniau i blant

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion Cofnodion wedi'u tagio ,

‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru

Chydig o newyddion gan y Llywodraeth am ddatblygiadau defnydd technolegau newydd ym myd addysg Cymru: Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp (Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth), ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol’, a oedd yn cynnwys deg argymhelliad pwysig. Er mwyn sicrhau bod strategaeth… Parhau i ddarllen ‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru

Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up

Mae amrywiaeth eang o ddyfeisiau symudol. Os wyt ti’n creu aps symudol neu gwefannau ac eisiau profi dy feddalwedd ar ddyfeisiau gwahanol mae’r cwmni Cover-Up ym Mhen-y-Bont yn cynnig labordy gyda llyfrgell o dua 100 dyfais gwahanol. Hefyd maen nhw yn hapus i groesawi unrhyw un am ddim – i gyd sydd angen ydy cofrestru… Parhau i ddarllen Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up

Llyfrau sain mp3 i blant, am ddim, gan wasg Y Dref Wen

Mae gwasg Y Dref Wen yn cyhoeddi llawer o gyfieithiadau Cymraeg o lyfrau poblogaidd i blant gan gynnwys y gwych Gryffalo, a nôl yn y dydd nhw oedd yn gyfrifol am drosiad Cymraeg fy hoff gomic – Tintin. Mae nhw rwan wedi rhoi 22 o lyfrau llafar neu lyfrau sain ar ffurf mp3 o rhai o’r… Parhau i ddarllen Llyfrau sain mp3 i blant, am ddim, gan wasg Y Dref Wen

Tu Chwith yn edrych am gyfraniadau ar y thema ‘digidol’

Dwi di cael ebost gan bobol cylchgrawn Tu Chwith sydd yn chwilio am gyfraniadau ar gyfer y gyfrol nesa. Mae’r thema’n berthnasol iawn i Hacio’r Iaith felly ewch amdani! Dyma’r manylion: Mae tuchwith yn chwilio am erthyglau (dim mwy na 2,000 o eiriau) sy’n trafod syniadaethau a theoriau digidol, trafodaethau ar sefyllfa Cymru a’r Gymraeg o safbwynt… Parhau i ddarllen Tu Chwith yn edrych am gyfraniadau ar y thema ‘digidol’

Ffeiliau Gweithdy App Haciaith Eisteddfod ar Github

Cefais y fraint o gynnal gweithdy App ym mhabell Haciaith yn Eisteddfod 2012, ac o’r diwedd mae’r ffeiliau ar gael ar-lein. Dwi wedi penderfynu defnyddio Github i’w cyhoeddi. Mae Github yn wefan sy’n darparu gwasanaeth Version Control. I chi di-geekwyr mae hon yn system tebyg i Undo mewn dogfen, ond ar gyfer projectau sy’n cynnwys… Parhau i ddarllen Ffeiliau Gweithdy App Haciaith Eisteddfod ar Github

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg

Caiff ystadegau’r Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu rhyddhau ar dydd Mawrth 11eg Rhagfyr 2012, ymhlith ystadegau eraill. Mae prinder o wybodaeth Cymraeg amdano fe ar hyn o bryd. (Dw i ddim yn hoff iawn o’r cyfrif Cymraeg Cyfrifiad2011, mae’n wan.) Dw i’n siwr bydd pobl sydd yn hoffi data eisiau dadansoddi’r canlyniadau gan gynnwys… Parhau i ddarllen Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg

Hacio'r Iaith Bach, Rhuthun – 8.11.12

Yn dilyn cyffro cyhoeddi Hacio’r Iaith 2013 yr wythnos diwethaf, dw i am drefnu Hacio’r Iaith Bach yn Rhuthun. Does dim Hacio’r Iaith Bach wedi bod yn y gogledd ddwyrain eto, felly byddai’n braf cwrdd a gîcs yr ardal. Os ydych ar gael nos Iau yma (8fed o Dachwedd), ac eisiau trafod technoleg, y we ac iaith, galwch… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith Bach, Rhuthun – 8.11.12