App Geiriadur Lluniau i blant

Dw i wedi derbyn ebost gyda’r datganiad i’r wasg canlynol. Gobeithio nad ydych yn meindio i mi ei ailgyhoeddi yn ei gyfanrwydd.

Mae’r Welsh-English Picture Dictionary App – y cyntaf o’i fath ar gyfer plant – ar werth. Am y pris rhesymol o £1.99, cewch ap sy’n gweithio’n debyg i gêm ryngweithiol. Cliciwch isod am fwy o wybodaeth:

Cyhoeddir gan Rily, cwmni annibynnol, teuluol o ardal Caerffili, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, er mwyn cynnig dull hwyliog a chyffrous i helpu plant i ddysgu’r Gymraeg a’r Saesneg! Mae’r ap yma’n gysylltiedig â’r llyfr The Welsh-English Picture Dictionary  a gellir un ai ei ddefnyddio ochr-yn ochr â’r llyfr neu ar wahân fel gêm addysgol.

Dywed Lynda Tunnicliffe, Cyfarwyddwr Rily, “Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous i ni. Ry’n ni wedi mwynhau llwyddiant mawr wrth cyhoeddi llyfrau printiedig ac yn mentro i fformatau digidol erbyn hyn. Mae’r ap yma’n dilyn yn ôl traed ap gwych Cyw S4C, ac os yw rhieni’n chwilio am anrheg Nadolig i’w plant sy’n adloniant addysgol tebyg i gêm, wedyn dyma’r union beth i chi! Os cawn ni ymateb da gan gyhoedd Cymru i’r ap yma, yna awn ati i ddatblygu ystod mwy eang o aps sy’n seiliedig ar lyfrau – dyna’r ffordd ymlaen i ni yn yr oes gyfrifiadurol gyflym sydd ohoni heddiw.”

-DIWEDD-

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Lynda Tunnicliffe, Rily Publications, Rily House, 55 Stryd Hywel Harris, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7DN

07912 448077  www.rily.co.uk

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.