Ffeiliau Gweithdy App Haciaith Eisteddfod ar Github

Cefais y fraint o gynnal gweithdy App ym mhabell Haciaith yn Eisteddfod 2012, ac o’r diwedd mae’r ffeiliau ar gael ar-lein.

Dwi wedi penderfynu defnyddio Github i’w cyhoeddi. Mae Github yn wefan sy’n darparu gwasanaeth Version Control. I chi di-geekwyr mae hon yn system tebyg i Undo mewn dogfen, ond ar gyfer projectau sy’n cynnwys degau, cannoedd neu filoedd o ffeiliau.

Penderfynais i’w cyhoeddi rwan, a gwella arnynt dros y dyddiau ac wythnosau nesaf, felly ymddiheuriadau eu bod ychydig yn denau.

Mae’r ffeiliau Javascript yna i gyd, a byddaf yn ychwanegu atynt gyda esboniad i bob gwers.

Ar hyn o bryd, mae croeso i ti ofyn am help ar twitter @meigwilym neu drwy Github ei hun, os oes gen ti gyfri.

Os wyt ti am gynnig gwelliannau, yna gwna pull request!

Byddai’n falch iawn i glywed unrhyw awgrymiadau new welliannau.

4 sylw

  1. Diolch ond dw i’n meddwl fy mod i’n deall y damcaniaeth(au) ac yn gallu creu repo ayyb. Canghennau gyda sawl cyfrannwr oedd yr heriau… Roedd y llinell gorchymyn yn haws na’r GUIs!

Mae'r sylwadau wedi cau.