Tu Chwith yn edrych am gyfraniadau ar y thema ‘digidol’

Dwi di cael ebost gan bobol cylchgrawn Tu Chwith sydd yn chwilio am gyfraniadau ar gyfer y gyfrol nesa. Mae’r thema’n berthnasol iawn i Hacio’r Iaith felly ewch amdani!

Dyma’r manylion:

Mae tuchwith yn chwilio am erthyglau (dim mwy na 2,000 o eiriau) sy’n trafod syniadaethau a theoriau digidol, trafodaethau ar sefyllfa Cymru a’r Gymraeg o safbwynt technolegol a digidol a sut yr ydym, o bosib, yn derbyn neu’n gwrthod y newidiadau a’r syniadaethau digidol hyn.

Rydym hefyd yn awyddus i dderbyn pytiau (oddeutu 500 gair) gan y blogwyr ar eu profiadau hwy o gadw blog a sut mae’r byd digidol yn dylanwadu arnom ac ein newid neu ein gorfodi/dylanwadu i ysgrifennu mewn ffyrdd gwahanol.

Os am drafod ymhellach, cysylltwch ar bob cyfri: tuchwith@googlemail.com

Dyddiad cau diwygiedig: 05.01.2013

Gallwch chi ddarllen rhai erthgylau ac adolygiadau ar eu gwefan: tuchwith.com