Datblygiadau digidol y Maori

http://www.crownfibre.govt.nz/2012/11/te-reo-facebook-on-the-way/

Mae ganddyn nhw Maori Internet Society, mae ganddyn nhw gynhadledd genedlaethol yn canolbwyntio ar gyfleoedd y rhyngrwyd i S.N. o’r enw Nethui.

Amser i ninnau gael trefn fwy swyddogol ar drafodaetha am y rhyngrwyd yn Gymraeg ac yng Nghymru, ac i gael cynhadledd genedlaethol sydd yn gwneud rhywbeth gwahanol i Hacio’r Iaith?

4 sylw

  1. Cwl, dwi’n credu aeth Jeremy Evas allan i Seland Newydd i drafod y sefyllfa mas fynna yn eithaf diweddar, fallai y gallai fe wneud cyflwyniad.

  2. Mae angen rhyw fath o gydweithred yn sicr. Y cwestiwn yw, beth yw’r ffordd mwyaf effeithiol i gryfhau’r Gymraeg ar y rhyngrwyd gan gynnwys y we – a phlatfformau digidol eraill? Fyddai sesiwn yn ystod Hacio’r Iaith yn gyfle addas i’w drafod?

  3. Roedd ymdrech i wneud sesiwn o’r fath llynedd – sesiwn Bwrdd Gwe Cymru – ond yn anffodus roedd cystadleuaeth gref i’r sesiwn gan flog cacennau fy chwaer! Dwi’n cytuno dylen ni neilltuo slot ar gyfer trafodaeth am strwythurauy gwell ar gyfer hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg ar y rhyngrwyd a hefyd Cymru yn ehangach, hyd yn oed os mae ond llond dwrn yn trafod.

  4. Yn union, mae’r cyfle yn hollol agored. Grym i bwy bynnag sy’n mynychu.

    Dw i’n cofio ein sgwrs gwreiddiol am Hacio’r Iaith gyda thri ohonyn ni yn y caffi.

    O ran y symposiwm, fydd rhywbeth sy’n adlewyrchu egwyddorion y rhyngrwyd yn neis – rhywdwaith, amrywiaeth o bobl/grwpiau, fel Hacio’r Iaith i ryw raddau. Mae’r gair ‘bwrdd’ yn achosi poen i fi ym mhersonol. Neu wyt ti’n awgrymu rhywbeth sydd yn edrych fel corff swyddogol er mwyn dylanwadu? Rydyn ni’n gallu ei drafod yn y sesiwn!

Mae'r sylwadau wedi cau.