Orbot

Gyda’r holl sôn am NSA a GCHQ, efallai y byddwch am ystyried defnyddio Orbot a’i borwr Orweb os oes dyfais Android gyda chi: https://guardianproject.info/apps/orbot/ Ac, yn amserol iawn ar ôl cofnod Aled am borth ieithoedd Microsoft, efallai y byddwch am gyfrannu at ei gyfieithu i’r Gymraeg: https://www.transifex.com/projects/p/orbot/

Porth Ieithoedd Microsoft: Adnodd terminoleg Cymraeg

Os ydych yn cyfieithu unrhyw beth ym maes TG neu jyst eisiau gwybod beth yw gair neu derm technegol yn Gymraeg, Saesneg neu un o ddwsinau o ieithoedd eraill, gall Porth Ieithoedd Microsoft fod o gymorth mawr i chi. http://www.microsoft.com/Language Mae’r adnodd ar gael ers peth amser, ond does dim sôn wedi bod amdano yma… Parhau i ddarllen Porth Ieithoedd Microsoft: Adnodd terminoleg Cymraeg

Diwrnod Ada Lovelace 15/10/2013: dathlu llwyddiannau menywod yn y maes technoleg

Mae Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd pob blwyddyn ers 2009, sef dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.  Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Dydd Mawrth 15fed o Hydref… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 15/10/2013: dathlu llwyddiannau menywod yn y maes technoleg

Haclediad #32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal

Yn Haclediad 32 bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn trafod gwerthu cwmni Blackberry am llai na mae Apple yn neud mewn blwyddyn, update diweddaraf iFfôn a Bryn yn ymuno â byd Android. Wrth gwrs bydd hefyd y cyfuniad gorau o sgwrs a nonsans i’ch clustiau – mwynhewch!

Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd

Mae bellach modd cofrestru ar gyfer cynhadledd EduWiki 2013, sef ail gynhadledd Wikimedia UK i drafod prosiectau addysgol. Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 1 a 2 o Dachwedd a bydd yn trafod ystod eang o bynciau o Adnoddau Dysgu Agored, Rhaglen Addysgol Wikipedia, asesu ac achredu, tybiaeth feirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd Wikipedia.… Parhau i ddarllen Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd

BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?

Ydy unrhyw wedi gwneud cyfieithiad o BuddyPress (yr ategyn WordPress) i’r Gymraeg? Rhannwch y ffeil .po os oes fersiwn os gwelwch yn dda, hyd yn oed rhywbeth anghyflawn! O’n i eisiau gofyn cyn bwrw ymlaen gyda fe. Annhebyg bydd gyda fi amser/egni/termau i wneud y cwbl lot ond dw i’n bwriadu cyfieithu’r pethau ar y… Parhau i ddarllen BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?

Datblygu radio personol, osgoi'r Archers a mwy

Dyma cofnod blog difyr am ddefnydd o Raspberry Pi a chod agored i hacio meddalwedd/caledwedd radio personol at eu gilydd. Maent yn datblygu botwn i osgoi’r Archers ond mae modd gwneud newidiadau i’r prototeip. Felly os oes elfen fach o BBC Radio Cymru sydd ddim at eich dant, dyma’r dyfais radio i chi. 🙂

Coleg Cenedlaethol Cymraeg a thrwydded Creative Commons

Mae hi’n braf i weld bod rhai o adnoddau Coleg Cenedlaethol Cymraeg ar gael o dan Creative Commons er mwyn hwyluso ailddefnydd, e.e. adnoddau a dogfennau gloywi iaith. http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/myfyrwyr/adnoddau/ Dw i ddim yn siwr pam maent wedi rhoi ‘NC’ (anfasnachol yn unig). Mae SA (share-alike – ‘rhannu tebyg’?) yn cael yr un effaith i bron… Parhau i ddarllen Coleg Cenedlaethol Cymraeg a thrwydded Creative Commons

Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

Wedi rhifyn byw’r eisteddfod, mae’r criw nôl yng Nghaerdydd, Llundain a Chaernarfon am rifyn diweddara’r haclediad! Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod 4G yn cyrraedd, mwy o esiamplau o brosiectau a gwefannau Half Arsed Cymru, a bydd Bryn Blin yn ailymuno efo’r criw yn achlysurol – ond rhaid gwrando i weld pam! 4G Buers… Parhau i ddarllen Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

Cwrs ‘Datblygu Gwefannau gan ddefnyddio WordPress’ AM DDIM, 17-18.10.13 Caerfyrddin

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cynnal cwrs deuddydd ar greu gwefan yn defnyddio WordPress. O’r wefan: Mae WordPress yn caniatàu i unrhyw un ddatblygu gwefan yn cynnwys: Busnesau sy’n dymuno sefydlu presenoldeb ar-lein Ffotograffwyr a dylunwyr sy’n dymuno arddangos eu portffolio ar-lein Masnachwyr sy’n dymuno creu siopau ‘e-fasnachol’ ar-lein Unigolion sy’n dymuno creu gwefannau newyddion… Parhau i ddarllen Cwrs ‘Datblygu Gwefannau gan ddefnyddio WordPress’ AM DDIM, 17-18.10.13 Caerfyrddin