Coleg Cenedlaethol Cymraeg a thrwydded Creative Commons

Mae hi’n braf i weld bod rhai o adnoddau Coleg Cenedlaethol Cymraeg ar gael o dan Creative Commons er mwyn hwyluso ailddefnydd, e.e. adnoddau a dogfennau gloywi iaith.
http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/myfyrwyr/adnoddau/

Dw i ddim yn siwr pam maent wedi rhoi ‘NC’ (anfasnachol yn unig). Mae SA (share-alike – ‘rhannu tebyg’?) yn cael yr un effaith i bron bob pwrpas. Beth yw’r ots os fydd rhywun eisiau defnyddio adnoddau sydd wedi cael eu cynhyrchu gydag arian cyhoeddus mewn ffordd masnachol eniwe? Jyst gofyn.

4 sylw

  1. Aha – diolch am hyn. O’n i wedi clywed sïon y byddai’r CCC yn gwneud mwy â CC yn y dyfodol.

    Felly beth yw’r gwahaniaeth ymarferol rhwng NC-SA ac SA yng nghyd-destun prifysgolion?

  2. Mae SA yn debyg i ‘copyleft’ yn y GPL.

    Er mwyn addasu’r deunydd (testun, llun, fideo, awdio, beth bynnag) a’i dosbarthu, mae’n rhaid pasio’r un rhyddid ymlaen.

    Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dosbarthu gwaith newydd sy’n seiliedig ar rhywbeth o dan SA rhannu eu gwaith newydd nhw o dan SA hefyd. Ar hyn o bryd does dim lot o gwmniau masnachol sy’n fodlon rhyddhau pethau o dan Creative Commons o unrhyw fath. Does dim lot o sefydliadau hyd yn oed. Dyma pam mae’r cymal yn actio fel NC iddynt. Mae’n digon i stopio nhw rhag addasu’r cynnwys heb sôn am NC.

    Os ydyn nhw (cwmniau cynhyrchu, cyhoeddi, cerddoriaeth, ayyb) yn fodlon mabwysiadu trwydded SA neu addasu pethau o dan SA maent yn gyfrannu at gynnwys rhydd.

    Ar hyn o bryd byddai pethau anfasnachol fel Wicipedia Cymraeg, blogwyr annibynnol ayyb yn gallu manteisio ar gynnwys o dan SA. Ond yn y dyfodol pe tasai cwmniau neu sefydliadau yn fodlon derbyn yr SA byddan nhw yn gyfrannu at gynnwys rhydd beth bynnag.

    Efallai mae prinder o Gymraeg yn y byd yn fwy o broblem nag ychydig o ddefnydd masnachol. (Sy’n cynyddu’r swm o gynnwys rhydd yn Gymraeg.) Dweud ein bod ni’n creu crys-t neu lyfr neu hyd yn oed cwrs masnachol sy’n seiliedig ar ddelwedd(au)/ddeunydd o archif Goleg Cenedlaethol – oes ots? Mae ‘busnes’ nhw yn seiliedig ar bethau eraill fel enw da, arbenigedd, y profiad wyneb-i-wyneb ayyb. Dw i’n siarad am hawlfraint yma yn hytrach na nodau masnach.

    Gellid dweud bod angen ehangu cyfleoedd i fentrau masnachol! Pwy sydd wedi talu am y cynnwys gwreiddiol? Yn aml iawn, ti, fi a ni trwy’r pwrs cyhoeddus!

    Ac mae trafodaethau ymhlith pobl Creative Commons am gael gwared â’r opsiwn NC am rai o’r rhesymau blaenorol.

  3. Papur gwerth chweil yn fama:
    http://www.wikimedia.de/images/1/15/CC-NC_Leitfaden_2013_engl.pdf

    Yn fyr: mae CC-NC yn caniatau i’ch cynnwys / ffeiliau gyrraedd tua 20% o’r byd. Mae CC-BY (neu CC-BY-SA) yn ei ledu dros y byd cyfan: “am ddim i bawb”.

    Mae’r cyfyngiad “Non Commercial” yn dwyllodrus: y weithred sy’n ei wneud yn fasnachol neu beidio. Er enghraifft: ydy ysgol fonedd yn fasnachol? Ydy. Dim hawl defnyddio’r drwydded NC. Ydy ysgol sirol yn fasnachol? Nac ydy… Ond: os yw’r ysgol sirol honno’n gwerthu Prospectws neu Lyfryn arall sy’n cynnwys ffotograff CC-NC yna mae’r weithred yn fasnachol, ac mae’r ysgol felly’n torri’r drwydded a gellir ei herlyn mewn llys. Disgrifio’r weithred mae’r C yn NC ac nid y corff.

    Mae rhoi trwydded CC-NC ar ffeiliau yn feiopic iawn, a dyna mae’r Amgueddfa Genedlaethol (ac eraill) wedi’i wneud yn cyfrannu eu lluniau i Gasgliad y Werin. Chaiff gweisg na siroedd na cholegau Cymru ddim defnyddio’r cynnws, na gwefannau megis Wicipedia. Dw i’n sylwi hefyd fod y Llywodraeth (yn ddifeddwl mae’n debyg) wedi mynd am “yr opsiwn hawdd” yma yn ddiweddar efo’r lluniau maen nhw’n ei uwchlwytho ar Flickr gyda thrwydded CC-NC. Trist iawn.

    Agorwch y ffenestri bobl!

Mae'r sylwadau wedi cau.