Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 2: Prosiect Llyfryddiaeth Cymru

Jason Evans. Delweddau’r Llyfrgell wedi gael eu gweld hanner biliwn o weithiau drwy fod ar Wikimedia Commons. Y Llyfrgell nawr hefyd yn defnyddio llwyfan Wikidata, sy’n ffordd o rannu data cysylltiedig, 40,000 o eitemau unigryw gan y Llyfrgell ar Wikidata, gan gynnwys Papurau Newydd Cymru. Modd dangos eitem ar sail lleoliad. Llyfryddiaeth Cymru, data am hanner miliwn… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 2: Prosiect Llyfryddiaeth Cymru

Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 2: Lleoleiddio Android ar ffonau symudol

Aled Powell yn esbonio sut mae’n newid ffonau Android i’r Gymraeg. Mae’n defnyddio system weithredu LineageOS. Mae 60% o’r gwaith cyfieithu wedi’i wneud (gallwch helpu drwy fynd i crowdin). Dangos sut mae LineageOS 15.1 yn edrych. Mae gan Aled amryw o ffonau sydd wedi’i llwytho gyda’r fersiwn Cymraeg i’w gwerthu. Bydd yn cynnal sesiwn demo… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 2: Lleoleiddio Android ar ffonau symudol

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ar brosiect sy’n ceisio mesur effaith rhannu data agored gydag Wikimedia. Bydd prosiect Wicipobl yn canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhannu delweddau digidol ar drwydded agored, gweithio gydag ysgolion ar ddigwyddiadau estyn allan, creu erthyglau  Wicipedia Cymraeg newydd, rhannu metadata’r Llyfrgell… Parhau i ddarllen Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Cystadleuaeth Fideo Firefox

Mae Firefox yn rhedeg cystadleuaeth fideo 16 eiliad Firefox Fights for You ym mhob iaith posib. Byddai’n grêt cael rhai Cymraeg – beth amdani! Manylion creu’r fideo a’r testun: https://events.mozilla.org/firefoxfightsforyoucampaign

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Ymchwil ar Facebook gan Leighton Andrews

Ydych chi wedi cyfrannu at gyfieithu Facebook i’r Gymraeg? Mae’r academydd Leighton Andrews yn gweithio ar astudiaeth o Facebook, ac wedi gofyn i mi helpu trwy basio’r cwestiynau isod ymlaen at sylw unrhyw un sydd wedi cyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Facebook. Anfonwch eich atebion i’r cwestiynau at AndrewsL7@cardiff.ac.uk os gwelwch yn dda. Sut ddaethoch chi’n… Parhau i ddarllen Ymchwil ar Facebook gan Leighton Andrews

Scratch 3.0 – y Scratch Newydd!

Mae Scratch wedi ei anelu at alluogi pobl ifanc o bob oed i raglennu eu straeon, gemau ac animeiddiadau rhyngweithiol eu hunain – a rhannu eu creadigaethau gydag eraill yng nghymuned ar-lein Scratch. Mae Scratch 3 yn cynnwys amryw o welliannau gan gynnwys, mae’n gweithio ar dabledi, estyniadau ar gyfer estyn galluoedd Scratch, gwell golygu… Parhau i ddarllen Scratch 3.0 – y Scratch Newydd!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Linux Mint 19.1

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae Linux Mint 19.1 “Tessa” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.1

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Bro360: cyfle i weithio fel datblygydd ar brosiect gwefannau bro

Mae straeon am brosiect newydd Bro360 eisoes wedi bod ar Golwg360 a BBC Cymru Fyw. Dyma neges wrth gwmni Golwg am y prosiect newyddion cymunedol, a chyfle i rywun gydweithio gyda’r cwmni fel datblygydd meddalwedd. Mae Golwg Cyf yn dymuno penodoi cwmni neu gonsortiwm cymwys i greu meddalwedd fydd yn sylfaen ar gyfer cynllun Bro360.… Parhau i ddarllen Bro360: cyfle i weithio fel datblygydd ar brosiect gwefannau bro