Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 2: Lleoleiddio Android ar ffonau symudol

Aled Powell yn esbonio sut mae’n newid ffonau Android i’r Gymraeg. Mae’n defnyddio system weithredu LineageOS. Mae 60% o’r gwaith cyfieithu wedi’i wneud (gallwch helpu drwy fynd i crowdin).

Dangos sut mae LineageOS 15.1 yn edrych.

Mae gan Aled amryw o ffonau sydd wedi’i llwytho gyda’r fersiwn Cymraeg i’w gwerthu.

Bydd yn cynnal sesiwn demo nes ymlaen.