Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ar brosiect sy’n ceisio mesur effaith rhannu data agored gydag Wikimedia.

Bydd prosiect Wicipobl yn canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhannu delweddau digidol ar drwydded agored, gweithio gydag ysgolion ar ddigwyddiadau estyn allan, creu erthyglau  Wicipedia Cymraeg newydd, rhannu metadata’r Llyfrgell yn agored ar Wikidata a chynnal Hacathon er mwyn annog ailddefnydd o’r data agored hwn.

Yna bydd yr holl weithgareddau hyn yn cael eu monitro a’u gwerthuso i asesu effaith y gwaith ac i geisio amlygu pwysigrwydd cynnwys agored ar ddiwylliant ac iaith Cymru.

Bydd yr Hacathon Hanes yn ddathliad o’r holl setiau data agored sydd ar gael yn y  Llyfrgell Genedlaethol ac yn gyfle i hacwyr, datblygwyr, dadansoddwyr data ac eraill i archwilio potensial y data hwn.

O greu delweddau data syml ac ailddefnyddio deunydd yn greadigol i brofi cysyniadau ar gyfer gwefannau neu apiau – rydym yn gobeithio gweld syniadau adfywiol ac arloesol ar sut y gellir defnyddio ein data agored hanesyddol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gweld cymwysiadau Cymraeg o’r data

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar oddeutu 7,000 o gofnodion bywgraffyddol sy’n gysylltiedig â’r Bywgraffiadur Cymreig ac Archif Portread Cymru, a bron i 5,000 o luniau portread trwyddedig yn ogystal ag ystod o setiau data eraill o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar yr 2il o Fawrth. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd pob cyfranogwr yn derbyn lluniaeth, cinio a bag o bethau da.

Cliciwch yma i ddarganfod a mwy a chadarnhau eich lle!

Gan Jason Evans

@Wici_llgc

1 sylw

  1. Diolch Jason. Edrychaf ymlaen at gymryd rhan.

    Dw i ddim yn siŵr iawn beth dw i eisiau creu eto.

    Mae cofnodion llongau Aberystwyth yn swnio’n ddifyr.

    Ond yn bennaf hoffwn i greu rhywbeth sy’n cyfrannu at brosiect MenywodMewnCoch. Unrhyw syniadau bobl?

Mae'r sylwadau wedi cau.