Bro360: cyfle i weithio fel datblygydd ar brosiect gwefannau bro

Mae straeon am brosiect newydd Bro360 eisoes wedi bod ar Golwg360 a BBC Cymru Fyw.

Dyma neges wrth gwmni Golwg am y prosiect newyddion cymunedol, a chyfle i rywun gydweithio gyda’r cwmni fel datblygydd meddalwedd.

Mae Golwg Cyf yn dymuno penodoi cwmni neu gonsortiwm cymwys i greu meddalwedd fydd yn sylfaen ar gyfer cynllun Bro360.


Mae Bro360 yn gynllun arloesol sydd â’r nod o gydweithio gyda chymunedau i greu rhwydwaith o wefannau bro Cymraeg fydd yn darparu newyddion lleol, ynghyd â chynnwys a gwasanaethau amrywiol eraill. Yn ystod cyfnod peilot y cynllun (2019 – 2022) byddwn yn gweithio’n benodol gyda chymunedau yn ardaloedd Arfon a Gogledd Ceredigion, ond y nod hirdymor ydy ymestyn y cynllun a’r rhwydwaith yn ehangach.


Rydym yn awyddus i benodi cwmni digidol fydd yn gweithredu fel partner wrth ddatblygu elfennau technegol a datblygu meddalwedd y cynllun, gan rannu’r un daliadau a brwdfrydedd â ni ynglŷn â’r botensial.


Er bydd y prosiect yn hyrwyddo a hybu defnydd o amryw lwyfannau digidol ymysg cymunedau lleol, mae gwefan ganolog sy’n ddeinamig ac yn hyblyg yn hollol allweddol i lwyddiant y cynllun. Prif rôl ein partner digidol fydd i ddatblygu meddalwedd addas ac effeithiol ar gyfer y cynllun ar sail yr hyn mae Golwg, a’r cymunedau lleol yn dymuno ei weld.


Bydd y feddalwedd yn cael ei adeiladu ar sylfaen WordPress, ac yn ogystal â bod yn rhwydd i’w ddefnyddio i bobl o bob gallu technegol, bydd yn rhyngweithio ac yn gweithio’n effeithiol ochr yn ochr â meddalwedd Golwg360. Yn hynny o beth rydym yn dychmygu y bydd gan gwmniau addas brofiad helaeth o ddatblygu gwefannau gan ddefnyddio lwyfan WordPress.

Fe fydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar wefan Gwerthwch i Gymru fel galwad ffurfiol am geisiadau tendr yn y flwyddyn newydd. E-bostiwch Owain Schiavone os ydych chi am dderbyn neges atgoffa pan fydd yr alwad am dendrau yn fyw.

Dw i’n ceisio bod yn dryloyw bob amser wrth flogio felly hoffwn i ddatgan fy mod i’n gweithio gyda Golwg ar elfennau o brosiect Bro360, fel ymgynghorydd meddalwedd.