Mae Scratch wedi ei anelu at alluogi pobl ifanc o bob oed i raglennu eu straeon, gemau ac animeiddiadau rhyngweithiol eu hunain – a rhannu eu creadigaethau gydag eraill yng nghymuned ar-lein Scratch.
Mae Scratch 3 yn cynnwys amryw o welliannau gan gynnwys, mae’n gweithio ar dabledi, estyniadau ar gyfer estyn galluoedd Scratch, gwell golygu sain a lliwiau, chwilio gwell ar gyfer corluniau, seiniau a chefndiroedd, ac ati…
![](https://www.meddal.com/meddal/wp-content/uploads/2019/01/Gwefan-3.jpg)
Mae Scratch yn cynorthwyo pobl ifanc i ddysgu i feddwl yn greadigol, ymresymu yn systemig a chydweithio – sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif.
![](https://www.meddal.com/meddal/wp-content/uploads/2019/01/Rhyngwyneb-Scratch-3.jpg)
Mae Scratch yn broject gan y Lifelong Kindergarten Group yn yr MIT Media Lab. Mae ar gael yn rhad ac am ddim ac yn Gymraeg.
![](https://www.meddal.com/meddal/wp-content/uploads/2019/01/Darganfod.png)
Yn awyddus am ddeunydd ar gyfer gwersi codio neu glwb codio? ewch i adran Addysgwyr Scratch
Yn rhiant ac eisiau gwybod mwy, ewch i Adran Rhieni
Mae Scratch Bwrdd Gwaith hefyd ar gael ar gyfer defnydd all-lein.