Signal, yr ap negesu preifat ar gael yn Gymraeg

Mae Signal, yr ap negeseuon diogel newydd ei ryddhau’n Gymraeg. Mae modd dewis y Gymraeg drwy fynd i Settings > Appearance a dewis Cymraeg. Bydd y rhyngwyneb yn troi’n Gymraeg. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Android yn unig.

Mae Signal yn ap sy’n defnyddio’r signal ffôn neu’r rhyngrwyd i gyfathrebu. Mae modd anfon negeseuon testun, siarad ar y ffôn a throsglwyddo ffeiliau o fathau gwahanol.Mae’n un o amryw o apiau sy’n cynnig y nodwedidon hyn ond ei fod yn cynnig trefn amgryptiad uwch ac nid yw’n gysylltiedig á chwmni sy’n hysbys ei fod yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr.

Dyma beth mae Signal yn dweud amdano’i hun.

Mae Signal yn gwneud preifatrwydd yn bosib

Gan ddefnyddio Signal, gallwch gyfathrebu’n syth gan osgoi costau SMS, creu grwpiau er mwyn sgwrsio byw gyda’ch ffrindiau a rhannu cyfryngau neu ffeiliau eraill mewn preifatrwydd llwyr. Nid oes gan weinyddion Signal fynediad i’ch cyfathrebu ac nid ydyn nhw’n storio dim o’ch data.

★ Dweud Unrhyw Beth. Mae Signal yn defnyddio protocol amgryptio uwch o un pen i’r llalluses an advanced end-to-end encryption protocol to keep your conversations private. Every message, every call, every time.

★ Cod Agored. Mae Signal am ddim ac yn God Agored, sy’n galluogi unrhyw un i wirio ei ddiogelwch trwy archwilio’r cod. Signal yw’r unig negesydd preifat sy’n defnyddio protocolau cryptograffig sy’n cael ei adolygu gan gymheiriaid cod agored er mwyn cadw’ch negeseuon a’ch galwadau’n ddiogel.

★ Byddwch yn Chi eich Hun- Mae Signal yn defnyddio’ch rhif ffôn a’ch llyfr cyfeiriadau. Does dim mewngofnodion eraill, enwau defnyddwyr, cyfrineiriau, neu PINs i’w  rheoli neu eu colli.

★ Sgwrs Grŵp. Mae Signal yn caniatáu i chi greu grwpiau wedi’u hamgryptio fel y gallwch gael sgyrsiau preifat gyda’ch holl ffrindiau ar unwaith. Nid yn unig y mae’r negeseuon wedi’u hamgryptio, ond nid oes gan y gweinydd Signal fynediad i unrhyw fetadata grŵp fel y rhestr aelodaeth, teitl y grŵp, neu eicon grŵp.

★ Cyflym. Mae’r protocol Signal wedi’i gynllunio i weithredu yn yr amgylchedd mwyaf cyfyngedig posibl. Wrth ddefnyddio Signal, mae negeseuon yn cael eu gyrru’n syth at eich ffrindiau.

★ Siarad yn Rhydd – Gwneud galwadau ffôn clir i bobl sy’n byw ar draws y dref, neu ar draws y môr, heb unrhyw gostau galwadau pell.

Nid yw Signal ar hyn o bryd yn gydnaws â thabledi.

2 sylw

  1. Diolch! Yr her nawr yw cael gymaint â phosib i ddefnyddio Signal yn Gymraeg.

    Pawb wedi recordio eu llais ar Common Voice Cymraeg. voice.mozilla.org/cy

Mae'r sylwadau wedi cau.