LineageOS – Android yn Gymraeg

Dyma ddiweddariad o ble mae’r gwaith lleoleiddio AOSP – yr Android Open Source Project – a LineageOS arni ar hyn o bryd. Fel pob prosiect cod agored arall, mae croeso i unrhyw un gyfrannu. Ymunwch yma: https://crowdin.com/profile/LineageOS Fersiwn Android Fersiwn LineageOS AOSP – Android Open Source Project (Android ei hun) LineageOS (ychwanegion LineageOS i AOSP)… Parhau i ddarllen LineageOS – Android yn Gymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

WordPress 5.1

Mae WordPress ar garlam i gael y golygydd newydd “Gutenberg” yn ei le yn ddiogel ac yn gweithio’n dda. Dyma ail ran o’r datblygiad a bydd rhan arall yn cyrraedd ddiwedd Ebrill, gyda WordPress 5.2. Bosib bydd rhai ohonon ni’n cadw at yr hen drefn nes bod y drefn newydd i gyd yn ei le… Parhau i ddarllen WordPress 5.1

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Tendr WordPress: datblygu meddalwedd ar gyfer cynllun Bro360

Os ydych chi’n arbenigo mewn WordPress mae cyfle i chi geisio am dendr i ddatblygu i gwmni Golwg360 a’i brosiect newyddion lleol Bro360. Dw i eisoes wedi blogio am hyn. Ewch i GwerthiwchiGymru am ragor o fanylion am y cyfle, sydd bellach yn fyw.

LibreOffice 6.2

Croeso i’r Bar Adnoddau! Mae LibreOffice 6.2 yn cynnwys cynllun rhyngwyneb defnyddiwr newydd – dewisol – o’r enw’r Bar Adnoddau.. Mae’n uno’r barau offer a’u grwpio i dabiau, gan eich cynorthwyo i weithio’n gynt a chlyfrach. Gwyliwch y fideo er mwyn gweld y bar ar waith a sut mae modd i chi ei brofi.  https://youtu.be/6HUnR5IoAQk Prosesu… Parhau i ddarllen LibreOffice 6.2

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn ar sgwrsfotiau

Sesiwn gan Maredudd Sgwrsfotiau yn gyfle i wella gwasanaeth sefyliad neu gwmni. (Defnydd mewn dysgu ieithoedd a meysydd eraill hefyd?) Teipio ar hyn o bryd, ond mae llais ar y ffordd. Rhagor am deallusrwydd artiffisial. Termau sgwrsfotiau: Gweithred Bwriad Endidau Angen mewnbynnu data sy’n cynnwys slang/bratiaith, e.e. ‘beth sydd i wotsho ar y teledu’, ‘pa… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn ar sgwrsfotiau

Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 3: Technoleg lleferydd

Delyth Prys yn cyflwyno yn lle Rhos ei gwr, sy’n brysur iawn gyda lleoleiddio. (Helo Rhos gan bawb yma gyda llaw!) Tra yn Berlin yn son am eu gwaith ar yr ap Paldaruo, clywodd cynrychiolwyr Mozilla am hyn. Sonio’n nhw am Common Voice, ble roedd 20,000 wedi cyfrannu at gynnwys Saesneg. Perswadwyd Mozilla i agor Common… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 3: Technoleg lleferydd