Ymchwil ar Facebook gan Leighton Andrews

Ydych chi wedi cyfrannu at gyfieithu Facebook i’r Gymraeg?

Mae’r academydd Leighton Andrews yn gweithio ar astudiaeth o Facebook, ac wedi gofyn i mi helpu trwy basio’r cwestiynau isod ymlaen at sylw unrhyw un sydd wedi cyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Facebook.

Anfonwch eich atebion i’r cwestiynau at AndrewsL7@cardiff.ac.uk os gwelwch yn dda.

  • Sut ddaethoch chi’n rhan o’r prosiect i gyfieithu Facebook i’r Gymraeg?
  • A oedd hyn yn rhan o ymgyrch bwriadol neu a wnaethoch chi ymuno fel unigolyn?
  • Pa gysylltiad fu rhyngddoch chi â Facebook ei hun?
  • Sut fyddech chi’n disgrifio eich ymwneud â Facebook?
  • A oedd Facebook yn cydymdeimlo â’ch amcanion?
  • Beth yw’r fantais o gael wyneb-ddalen Gymraeg ar Facebook?
  • Sut fyddech chi’n disgrifio effaith Facebook ar yr iaith Gymraeg?