Coder Dojo Cymru – cynnau brwdfrydedd dros gôd gan bobol ifanc

http://www.coderdojocymru.org/?page_id=17 CoderDojo Cymru is all about about encouraging and enthusing young people from the ages of 8 to 14 to learn and enjoy coding. Cyfieithiad Cymraeg ar ei ffordd gan Gwion Ll, ac mae mentora ar gael yn Gymraeg hefyd fel dwi’n dallt. Gwych iawn.

Cyfieithu ‘checkin’ i’r Gymraeg

Dwi’n chwilio am drosiad o’r ferf ‘to check in’ a’r enw ‘checkin’. Mae ‘cofnodi’ / ‘cofnodyn’ yn apelio i fi ar hyn o bryd, ond efallai gallai dryswch godi gyda mwy nag un cofnodyn (cofnodau) sydd yn debyg i gofnod blog. Dyma rai o’r syniadau hyd yn hyn. Be di’ch barn chi? http://storify.com/nwdls/cyfieithu-r-term-checkin-i-r-gymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,

i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?

Mae gŵyl i-docs ar fin dechrau ym Mryste. Yno byddan nhw’n trafod y diweddaraf yn y byd ffilmiau dogfen rhyngweithiol. Dwi’n ffeindio’r maes yma’n gyffrous iawn ar hyn o bryd, er bod na elfennau ohono sydd yn gwneud i fi deimlo ei fod yn ddefnydd ryngweithio am y rhesymau anghywir, a bod yna fformiwla o… Parhau i ddarllen i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?

Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?

Dwi wedi bod yn meddwl am ein sefydliadau yng Nghymru, a’r potensial creadigol sydd wedi ei gloi tu mewn i rai ohonyn nhw. Wn i ddim os oes unrhyw werth i’r syniad yma ond dwi am ei wyntyllu beth bynnag: Beth pe bai pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru (Amgueddfa Gen, Llyfrgell Gen, Llywodraeth ayyb) yn… Parhau i ddarllen Cydweithio côd rhwng sefydliadau’r sector gyhoeddus yng Nghymru? Syniad twp?

Google, Busnesau a’r Gymraeg ( + bonus rant am newyddion Cymraeg arlein)

‘Google yn cynorthwyo busnesau i gael presenoldeb ar y we’ http://www.bbc.co.uk/newyddion/17265560 Ond faint o gymorth fyddan nhw’n ei gael i wneud gwefannau dwyieithog? Pan ma Google mor llac ei ymroddiad i’r Gymraeg ar chwiliadau, lleoleiddio ei apps ei hun, ac ati dwi’n amau y bydd na. Os nad oes cymorth i greu gwefannau dwyieithog, a… Parhau i ddarllen Google, Busnesau a’r Gymraeg ( + bonus rant am newyddion Cymraeg arlein)

Raspberry Pi a’r Gymraeg

Mae Huw Waters wedi blogio yn esbonio popeth am y cyfrifiadur bach hwn: Ddoe (29ain Chwefror 2012) cyhoeddodd Sefydliad Raspberry Pi bod ei chyfrifiadur £22 ar gael i’w brynu. Gwerthodd y 10,000 cyntaf o fewn munudau. Fersiwn i ddatblygwyr sydd ar gael gyntaf, ond bydd fersiwn addysgiadol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. O safbwynt… Parhau i ddarllen Raspberry Pi a’r Gymraeg