Hacio’r Iaith: Hywel Jones from Rhodri ap Dyfrig on Vimeo.
Awdur: Rhodri ap Dyfrig
Isdeitlo fel Basg
Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua. Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r ffilmiau hyn yn barod… Parhau i ddarllen Isdeitlo fel Basg
Fideos Hacio’r Iaith: app iPhone ‘Learn Welsh’ a SeiberCofis
Hacio’r Iaith: Neil Taylor gan Rhodri ap Dyfrig ar Vimeo. Hacio’r Iaith: SeiberCofis gan Rhodri ap Dyfrig ar Vimeo.
Fideos Hacio’r Iaith: Aran Jones
Mwy ar y ffordd pan ga’i amser i lanlwytho… Hacio’r Iaith: AranJones from Rhodri ap Dyfrig on Vimeo.
Annwyl Gwales, Pan da chi’n diweddaru e…
Annwyl Gwales, Pan da chi’n diweddaru eich gwefan nesaf, wnewch chi wneud yn siwr bod pobol yn gallu lawrlwytho ffilmiau Cymraeg oddi yno? Does dim posib cael gafael ar Hedd Wyn rhagor hyd yn oed. Mae bron pob dysgwr dwi’n siarad â nhw eisiau gwylio ffilmiau. Ydi hi ddim yn hen bryd sortio hyn? Cofion… Parhau i ddarllen Annwyl Gwales, Pan da chi’n diweddaru e…
Da chi’n meddwl allwn ni ofyn i Faceboo…
Da chi’n meddwl allwn ni ofyn i Facebook a Twitter gau o lawr am wythnos i ddefnyddwyr Cymraeg er mwyn annog nhw i ddechrau blogio? 😉 http://bloghebenw.blogspot.com/2004/09/codi-pais-dechre-pisio.html Wnaeth cau maes-e yn 2004 rili annog mwy o bobol i ddechrau blogio?
Mae eisoes trafod am ddatblygu ar sylfae…
Mae eisoes trafod am ddatblygu ar sylfaen Hacio’r Iaith a gwneud digwyddiadau pellach. Dyma ddau syniad a drafodwyd hyd yn hyn (teitlau dors dro di’r rhain gyda llaw!): 1. Hacio’r Ymgyrch – digwyddiad yn dod ag ymgyrchwyr a rhaglennwyr at eu gilydd i gydweithio a dysgu am sut i ddefnyddio’r we ar gyfer ymgyrchu llwyddiannus… Parhau i ddarllen Mae eisoes trafod am ddatblygu ar sylfae…
Gwrandwch ar rai o sesiynau Hacio’r Iaith
Gallwch chi nawr wrando ar dri o’r sesiynau a gynhaliwyd yn Ystafell 1 yn ystod Hacio’r Iaith. Dim ond un recordydd mp3 oedd ganddon ni yno, a mic ‘built-in’ felly maddeuwch os ma’r sain yn isel yn ystod rhai darnau. Bydd fideo o Ystafell 2 yn dod cyn bo hir. Hacio’r Iaith: Sesiwn Golwg360 gan… Parhau i ddarllen Gwrandwch ar rai o sesiynau Hacio’r Iaith
Newydd roi’r sesiynau ddigwyddodd ar y …
Newydd roi’r sesiynau ddigwyddodd ar y diwrnod ar y grid ar y wici a diweddaru’r rhestr mynychwyr: http://hedyn.net/hacio_r_iaith/ionawr2010#trefnu_r_dydd Fydda i’n rhoi dolenni i mp3s a fideos wrth iddyn nhw fynd ar-lein.
Teclynnau trefnu Hacio’r Iaith
Ok, yn ysbryd agored y digwyddiad dwi am drio sgwennu rhai cofnodion dros yr wythnos nesaf ar sut drefnwyd Hacio’r Iaith. Yn gyntaf dwi jest am greu rhestr o’r teclynnau, meddalwedd neu wasanaethau ddefnydion ni ar gyfer cydweithio i dynnu’r elfennau gwahanol at eu gilydd. Croeso i chi ychwanegu at y rhestr os dwi wedi… Parhau i ddarllen Teclynnau trefnu Hacio’r Iaith