Gwrandwch ar rai o sesiynau Hacio’r Iaith

Gallwch chi nawr wrando ar dri o’r sesiynau a gynhaliwyd yn Ystafell 1 yn ystod Hacio’r Iaith. Dim ond un recordydd mp3 oedd ganddon ni yno, a mic ‘built-in’ felly maddeuwch os ma’r sain yn isel yn ystod rhai darnau. Bydd fideo o Ystafell 2 yn dod cyn bo hir.

Hacio’r Iaith: Sesiwn Golwg360 gan nwdls

Hacio’r Iaith: Sesiwn Meddal.com / SALT Cymru gan nwdls

Hacio’r Iaith: Sesiwn Llennatur.com gan nwdls

3 sylw

  1. Diolch am y rhain.. Wedi manteisio i wrando ar sgwrs Owain a fethais ar y dydd. Rhai sylwadau difyr ganddo am gyfeiriad y gwasanaeth.

  2. Dwi wedi newid y widget Soundcloud fel bo pawb rwan yn gallu lawrlwytho’r mp3s uchod i’w gwrando ar eich dyfais symudol. Jest cliciwch ar y saeth bach sy’n pwyntio am i lawr.

Mae'r sylwadau wedi cau.